Croeso i BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe

Rydym yn deall bod angen i ni eich cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn i chi allu mwynhau eich amser yn y Brifysgol i'r eithaf. 

Rydym yn cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth diduedd am ddim i fyfyrwyr, heb feirniadu, mewn amgylchedd cartrefol, cyfeillgar a chyfrinachol. Dewch i'n gweld i gael cymorth arbenigol gan wasanaethau'r Gaplaniaeth, Cymunedol, Rhyngwladol, Ariannol, Cyfranogiad a Llesiant.