Dysgwch am ein henillwyr

I ddathlu ein Canmlwyddiant (sef ein pen-blwydd yn 100 oed), gofynnon ni ichi ein helpu i ddylunio Prifysgol y Dyfodol, gan ddychmygu sut olwg fydd ar ein prifysgol mewn 100 mlynedd, ym mlwyddyn 2120.

Cafodd ein cystadleuaeth ei chymeradwyo gan yr awdur arobryn i blant, David Walliams, a chawsom gynigion gwirioneddol ddyfeisgar a chreadigol ar draws y cyfnodau allweddol.

Cawsom ni ein hysbrydoli'n fawr gan eich holl syniadau am yr hyn y gallai ein myfyrwyr fod yn ei astudio, y dyfeisiadau y gallai ein gwyddonwyr a'n peirianwyr fod yn gweithio arnynt a sut olwg allai fod ar ein hadeiladau!

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth. Roedd y safon yn wirioneddol uchel. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am enillwyr ein cystadleuaeth isod.

Cyfnod Allweddol 1

Enillydd Cyfnod Allweddol 1 yw Jack Mabbett, o Ysgol Gynradd Pennard. Tynnodd lun o Brifysgol y Dyfodol lle mae Jack yn disgrifio "robotiaid sy'n addysgu myfyrwyr. Mae grisiau symudol y tu allan i adeilad y Brifysgol fel y gallwch eistedd ar y to. Mae'r to wedi'i wneud o baneli solar y gallwch chi eistedd arnynt. Mae'r ffenestri wedi'u gwneud o sgriniau cyfrifiadur y gallwch chi siarad iddynt."

Mae llun Jack wedi'i gynnwys mewn fideo wedi'i anameiddio.

Cais Jack

Cyfnod Allweddol 2

Mae'n amser stori! Enillydd Cyfnod Allweddol 2 yw Amelia Johnson, o Ysgol Gynradd y Mayals. Mae stori Amelia yn canolbwyntio ar ddyfodol lle mae Prifysgol Abertawe wedi'i hailadeiladu dan y dŵr, o dan Forlyn Llanw ym Mae Abertawe. Bellach mae'n eco-Brifysgol arobryn sy'n creu ei hynni ei hun.

Fyddwn i ddim yn rhoi diwedd y stori i chi – mae David Walliams wedi adrodd stori Amelia, sydd wedi dod yn fyw mewn animeiddiad y gallwch chi ei wylio yma.

Cyfnod Allweddol 3

Enillydd

Enillydd Cyfnod Allweddol 3 yw Yusef Butt, o Ysgol Gyfun yr Olchfa ac sydd wedi creu cyflwyniad gwych wedi'i animeiddio ar gyfer ei weledigaeth ef o Brifysgol Abertawe ymhen 100 mlynedd, y mae ef yn ei adrodd ar ein cyfer.

Clod uchel 

Daw’r cynnig clodwiw iawn hwn ar gyfer y categori hwn gan Hemachandra Kanamarlapudi, a wnaeth animeiddiad gwych o gar sy'n hedfan, sydd wedi'i bweru gan ynni solar ac a ddyfeisiwyd gan Brifysgol Abertawe ym mlwyddyn 2120. 

Dysgodd Hemachandra sut i greu animeiddiad ar sail fframiau yng ngweithdai Haf STEM TechnoCamps.

Diolch

Da iawn i'n holl enillwyr a chystadleuwyr. Ar sail eich syniadau gwych chi, rydym yn gyffrous i weld sut  bydd ein prifysgol yn datblygu yn ystod ein hail ganrif.