Cysylltwch â’n tîm Cynaliadwyedd

Mae ein Tîm Cynaliadwyedd yn gweithredu ar draws y Brifysgol ac yn allanol i gydlynu ac arwain ein rhaglen gynaliadwyedd ac i gyflawni’r ymrwymiadau yn Strategaeth Cynaliadwyedd 2021-2025. Sefydlwyd yr adran yn 2011 ac mae'n atebol i'r Is-ganghellor sydd â'r cyfrifoldeb gweithredol am gynaliadwyedd.

MaesCyfeiriad E-bost
Cynaliadwyedd sustainability@abertawe.ac.uk  
Bioamrywiaeth a Bywyd Gwyllt wildlife@abertawe.ac.uk 
Gwastraff ac Ailgylchu estates-waste@abertawe.ac.uk 
Teithio Cynaliadwy travel@abertawe.ac.uk 

 

EnwTeitl SwyddCyfeiriad E-bostMaes
Teifion Maddocks Rheolwr Cynaliadwyedd  t.h.maddocks@abertawe.ac.uk   Mae Teifion yn rheoli tîm Cynaliadwyedd y Brifysgol, yn aelod o Bwyllgor Cyfrifoldeb Corfforaethol a Bwrdd Iechyd a Lles y Brifysgol, gan ddarparu gwybodaeth a phrofiad proffesiynol a thechnegol i gyfrannu at gyflwyno agenda cynaliadwyedd a lles y Brifysgol yn llwyddiannus. Mae Teifion yn goruchwylio cyflwyno’r Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd a’r amcanion, y nodau, y strategaethau a’r mesurau cysylltiedig, ynghyd â rheoli achrediadau allanol a gweithio’n weithredol gyda rhanddeiliaid allanol i integreiddio cynaliadwyedd ar draws y rhanbarth. Mae meysydd gwaith penodol hefyd yn cynnwys caffael cynaliadwy, arloesedd technolegol, ymgysylltu, rheoli carbon a’r argyfwng hinsawdd.  
Victoria Lewis Swyddog Amgylchedd v.c.lewis@abertawe.ac.uk  Mae Victoria yn gyfrifol am wella ymarfer cynaliadwyedd a rheoli’r amgylchedd ar draws y Brifysgol ynghyd â’i gweithrediadau craidd ar draws campysau’n Prifysgol. Gan weithio fel rhan o dîm i gynnal a chyflawni’n hachrediad ISO14001:2015, Victoria yw cyswllt allweddol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Labordai LEAF a gwasanaethau proffesiynol. Victoria hefyd yw’r prif swyddog ar gyfer y rhaglen labordai cynaliadwy, LEAF. 
Swydd wag Swyddog Amgylchedd sustainability@abertawe.ac.uk   Mae'r Swyddog Amgylchedd yn gyfrifol am wella ymarfer cynaliadwyedd a rheoli amgylcheddol ledled y Brifysgol a'i gweithrediadau craidd ar draws campysau'r Brifysgol. Gan weithio fel rhan o dîm i gynnal a chadw a chyflawni ein hachrediad ISO14001:2015, mae'r Swyddog Amgylchedd yn prif gyswllt ar gyfer y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol a'r gwasanaethau proffesiynol.
Fiona Wheatley Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu fiona.wheatley@abertawe.ac.uk  Fiona yw ein Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu penodol, sy'n goruchwylio'n strategol gontract gwastraff y Brifysgol. Mae'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol, gan ddarparu arweiniad ynghylch rheoli gwastraff, yn ogystal â hybu gwelliannau wrth ailddefnyddio, ailgylchu a chreu llai o wastraff, wrth wella pob agwedd ar reoli gwastraff ledled ein holl gampysau.
Rhia Cullen Cynorthwy-ydd Amgylcheddol a Chynaliadwyedd r.e.cullen@abertawe.ac.uk 

Mae Rhia yn cydlynu ein sianeli e-bost a'n tudalennau gwe cynaliadwyedd, ac yn aml hi yw'r pwynt cyswllt cyntaf yn y tîm Cynaliadwyedd. Mae Rhia yn cynorthwyo wrth gydlynu prosiectau, rhaglenni a digwyddiadau cynaliadwyedd allweddol ar draws y Brifysgol. Mae Rhia hefyd yn cynorthwyo mewn agweddau ar systemau a phrosesau rheoli gwastraff.

Jayne Cornelius Swyddog Teithio Cynaliadwy j.cornelius@abertawe.ac.uk  Jayne yw ein Swyddog Teithio Cynaliadwy arbenigol, ac mae'n gweithio ledled y Brifysgol a chyda rhanddeiliaid allanol er mwyn cyflawni'r Strategaeth Teithio Cynaliadwy. Mae Jayne hefyd yn rheoli'r contractau trafnidiaeth gan gynnwys ein gwasanaethau bws, beiciau Santander a'r Cynllun Beicio i'r Gwaith. Hefyd, mae Jayne yn gweithio gyda sefydliadau allanol er mwyn integreiddio atebion teithio cynaliadwy ledled ein Dinas-ranbarth.
Katie Horsburgh

Swyddog Cynaliadwyedd

katie.horsburgh@abertawe.ac.uk 

Mae Katie yn gyfrifol am wella arferion cynaliadwyedd a rheoli'r amgylchedd ym mhob rhan o'r Brifysgol a'i gweithrediadau craidd ar draws campysau'r Brifysgol. Mae'n gweithio fel rhan o dîm sy’n cynnal ac yn cyflawni ein hachrediad ISO14001:2015. Katie yw partner cynaliadwyedd allweddol Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr ac adrannau arlwyo, ac mae'n cydlynu rhaglen ymgysylltu â myfyrwyr a staff y Brifysgol o ran cynaliadwyedd, SWell, ynghyd â masnach deg a'n cynllun cyfathrebu. Yn ogystal â chynaliadwyedd gweithredol, mae Katie yn gweithio gydag adrannau academaidd i wella rhagolygon graddedigion o ran sgiliau gwyrdd a chynaliadwyedd drwy Wobr Global Citizen.

Ben Sampson Swyddog Bioamrywiaeth benjamin.sampson@abertawe.ac.uk  Ben yw ein Swyddog Bioamrywiaeth arbenigol, sy'n gweithio ar draws y Brifysgol a'r tu hwnt i wella ein hamgylchedd naturiol ni. Mae Ben yn gweithio tuag at gyflawni ymrwymiadau'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, yn ymgysylltu â staff a myfyrwyr i hybu ymwybyddiaeth ynghylch bioamrywiaeth, ac yn cynnal prosiectau. Mae Ben hefyd yn gyfrifol am reoli Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn.
Lye-Shun Chau Rheolwr Ynni a Charbon l.s.chau@abertawe.ac.uk   Mae'r Rheolwr Ynni a Charbon yn hyrwyddo'r gwaith o leihau allyriadau ac effeithlonrwydd ynni drwy ddatblygu a chyflawni ar ein Cynllun Rheoli Carbon. Gan weithio ar lefel weithredol, mae'r Rheolwr Ynni a Charbon yn gweithio ledled yr holl Brifysgol a chyda rhanddeiliaid allanol i leihau ein dŵr, ein hynni a'n carbon.
Gareth Williams

Asiant dros Newid - Cynaliadwyedd

 

gareth.williams@abertawe.ac.uk 

Mae Gareth yn ysgrifennu ac yn cydlynu cynnwys i'n sianeli cyfathrebu, yn ogystal â chynorthwyo gydag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth e.e. ym meysydd bioamrywiaeth a theithio. Mae'n cynorthwyo wrth gynnal digwyddiadau a gweithgareddau wyneb yn wyneb i staff a myfyrwyr. Mae Gareth hefyd yn cydweithio â swyddogion yr amgylchedd i gefnogi System Rheoli Amgylcheddol ISO-14001.

Swydd wag (wrthi’n recriwtio Swyddog Cynaliadwyedd (Addysg a Gyrfaoedd)  

Yn cydlynu gweithgarwch mapio Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU ac Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn y brifysgol, gan ymgysylltu ag academyddion y brifysgol fel rhan o raglen mapio cwricwlwm Students Organising for Sustainability(SOS-UK). Gan weithio ar draws adrannau a chyda sefydliadau allanol i hyrwyddo a hwyluso digwyddiadau a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ar draws y brifysgol (megis  Digwyddiad Addysgu blynyddol SOS, ffeiriau gyrfaoedd, llythrennedd carbon a’r Wobr Dinasyddion Byd-eang), i ymgorffori’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ar draws y cwricwlwm ffurfiol, anffurfiol ac isganfyddol. 

Joe Lidgett

Intern Bioamrywiaeth 

wildlife@abertawe.ac.uk  

Lleoliad blwyddyn o hyd yn gweithio gyda’r Swyddog Bioamrywiaeth

 

Lewis Atkins

Intern Bioamrywiaeth

 
wildlife@abertawe.ac.uk  

Lleoliad blwyddyn o hyd yn gweithio gyda’r Swyddog Bioamrywiaeth

Carly Blyth

Intern Bioamrywiaeth

wildlife@abertawe.ac.uk  

Lleoliad blwyddyn o hyd yn gweithio gyda’r Swyddog Bioamrywiaeth

Cefnogir y Tîm Cynaliadwyedd i gyflawni’r strategaeth cynaliadwyedd trwy gyllideb flynyddol a ddaw o gyllid mewnol a chyllid allanol (e.e. y brifysgol, CCAUC, Llywodraeth Cymru, a’r Trydydd Sector). Mae’r gyllideb yn newid bob blwyddyn ac mae fel arfer rhwng £500,000 ac £1 filiwn. Yn ogystal, ers 2015 buddsoddwyd dros £3 miliwn mewn prosiectau lleihau carbon gan gynnwys: Gosod Celloedd Solar Ffotofoltäig, prosiectau effeithlonrwydd ynni ac isadeiledd a meddalwedd System Rheoli Adeiladau.