Rhwydwaith ffyniannus o fusnesau gwyddor bywyd

Mae ein rhwydwaith ffyniannus o fusnesau gwyddor bywyd sy'n rhannu amcanion tebyg yn gallu manteisio ar swyddfeydd, cyfleusterau a chymorth pwrpasol drwy un o'n pecynnau aelodaeth risg isel ardderchog.

Gall ein busnesau cysylltiol a'n tenantiaid elwa o rannu safle â rhagoriaeth academaidd, gan fanteisio ar brosesau trosglwyddo gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r sefyllfa iechyd a gwyddor bywyd yng Nghymru. Mae cwmnïau ac entrepreneuriaid sy'n gysylltiedig â'r Sefydliad Gwyddor Bywyd yn gallu manteisio ar arbenigedd a chyfleusterau ymchwil rhyngddisgyblaethol yn ogystal â chymorth busnes i dyfu ac i lwyddo.