Diabetes a Chyflyrau Metabolaidd Cysylltiedig

Diabetes a chyflyrau metabolaidd cysylltiedig yw un o brif achosion afiechyd a marwolaethau cynamserol gan roi pwysau ariannol enfawr ar y gwasanaethau iechyd. Mae'r Grŵp Ymchwil Diabetes yn weithgar mewn meysydd ymchwil sylfaenol, clinigol, epidemiolegol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd. Nod trosfwaol y Grŵp yw mynd i’r afael â’r anghenion gofal iechyd pwysig hyn trwy gynnal a chefnogi ymchwil trosiadol i hyrwyddo datblygiad a gweithrediad strategaethau therapiwtig ar gyfer atal a thrin diabetes.

Tim ymchwil tu allan i adeilad Fulton

Ymchwil Diabetes yn yr Ysgol Feddygol

Yng Nghymru mae 7.3% o'r boblogaeth >17 oed yn byw gyda diabetes, y nifer uchaf yn y DU. Mae diabetes yn effeithio ar bob rhan gymdeithasol-ddemograffig o gymdeithas sy'n cyfrif am fwy na 10% o wariant y GIG. Dim ond 9% o gleifion sy’n cyrraedd targedau a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer rheoli glwcos yn y gwaed ac mae gan dros 66% werthoedd sy’n eu gwneud yn agored i risg o ddatblygu cymhlethdodau diabetig sy’n newid bywyd.

Canlyniadau Ymchwil

Mae ein grŵp yn canolbwyntio ar ffyrdd o atal a rheoli epidemig diabetes ac mae wedi cyfrannu at effaith gofal iechyd cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys:

  • Cyfraniad at ddatblygiad therapïau diabetes sydd wedi dod yn rhan o ganllawiau safonol trin diabetes yn y DU a ledled y byd;
  • Gweithio gyda diwydiant i asesu dyfeisiau ar gyfer monitro glwcos yn y gwaed a nodi eu lle mewn rheoli diabetes;
  • Ymchwil i retinopathi diabetig
Blood Glucose Monitor and droplet of blood on finger

Effaith Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed mewn modd Strwythuredig

Blood glucose monitor being used

Hunanfonitro Glwcos Yn Y Gwaed Mewn Diabetes Math 2 Na Chaiff Ei Drin Ag Inswlin

Mae gwerth Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed i bobl â diabetes math 2 na chaiff ei drin ag inswlin wedi bod yn destun dadl ers blynyddoedd lawer, ac mae canllawiau presennol y DU yn cyfyngu ar y defnydd ohono. Gwnaethom arwain astudiaeth ledled Cymru a Lloegr i werthuso ‘Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed mewn modd Strwythuredig’ gan ddangos ei fod yn gallu gwella'r ffordd y rheolir glwcos yn y gwaed mewn modd sy'n arwyddocaol yn glinigol. Gwelsom hefyd ei fod yn gwella ansawdd bywyd i unigolion. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed mewn modd Strwythuredig yn ddefnyddiol ar gyfer hunanreoli diabetes.

Cyfnodau Sgrinio ar gyfer Retinopathi Diabetig

Mae retinopathi diabetig (DR) yn un o brif achosion dallineb ac mae canllawiau cenedlaethol yn argymell y dylid cynnal sgrinio ar gyfer DR yn flynyddol. Dangosodd ein grŵp mewn nifer fawr o gleifion a ddilynwyd dros gyfnod o 4 blynedd y gellid ymestyn y cyfnodau sgrinio i 2 i 3 blynedd ar gyfer pobl â diabetes math 2 heb retinopathi ac efallai y bydd modd haenu cyfnodau sgrinio yn seiliedig ar lefel y risg.

Perfformiad pecyn prawf cartref newydd goddefgarwch glwcos trwy'r geg

Mae'r prawf goddefgarwch glwcos trwy'r geg (OGTT), yn brawf diagnostig ar gyfer diabetes, a gynhelir fel arfer mewn lleoliad clinigol. Mae ymchwilwyr labordy a chlinigol o’r grŵp wedi bod yn ymwneud â datblygu a dilysu dyfais newydd sy’n galluogi OGTT ‘gartref’. Dangosodd treial cymhariaeth mewn 100 o wirfoddolwyr gytundeb da rhwng y dadansoddwyr dyfais a labordy, gan ddangos ei botensial fel dewis amgen i OGTTs mewn clinigau, yn arbennig o fuddiol mewn grwpiau risg uwch.

Dr Ivy Cheung

Ystadegydd Treialon Diabetes, Biomedical Sciences
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Gareth Dunseath

Uwch-swyddog Ymchwil, Biomedical Sciences
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Thinzar Min

Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Diabetes ac Endocrinoleg, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 205678 ext 9701
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Sharon Parsons

Uwch-swyddog Ymchwil, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 606721
Dr Sarah Prior

Dr Sarah Prior

Uwch-ddarlithydd, Biomedical Sciences
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Jeffrey Stephens

Cadair Bersonol, Biomedical Sciences
JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Dr Becky Thomas

Dr Becky Thomas

Uwch-ddarlithydd yn Iechyd y Boblogaeth a Gwyddorau Meddygol, Health Data Science
+44 (0) 1792 205678 ext 8157
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig