Ymchwil Ym Maes Hemorheoleg

Mae thrombosis (clotiau gwaed) yn elfen bwysig sy'n cyfrannu'n fawr at lwyth clefydau ledled y byd. Mae ymchwil i hemorheoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys gwaith a wneir ar y cyd rhwng Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, y Coleg Peirianneg a'r GIG.  Un o'r meysydd sy'n ganolog i'r ymchwil hon yw darparu biofarcwyr diagnostig a all wella'r broses o fonitro ymyriadau therapiwtig a sgrinio cleifion â chlefydau sy'n gysylltiedig â thrombosis.

SEM Blood Research

SEM Blood Research

Biofarcwyr Newydd Ar Gyfer Monitro Therapïau A Gwneud Diagnosis O Annormaleddau

Mae ein rhaglen o waith cymhwyso ymchwil yn cynnwys datblygu biofarcwyr ar gyfer clotiau gwaed, yn seiliedig ar fesuriadau rheolegol o glotiau gwaed sy'n ffurfio, hyd at adeg cwblhau gwerthusiad clinigol mewn amgylchedd y GIG. Datblygiadau ym maes rheometreg sydd wrth wraidd ein biofarcwyr, ac maent wedi bod yn destun astudiaethau helaeth mewn cleifion ag ystod o glefydau gan gynnwys Strôc, Canser, Sepsis a Thrombosis Gwythiennau Dwfn.

Biofarcwyr Newydd Ar Gyfer Clotiau Gwaed

Mae ein hymchwil wedi darparu dealltwriaeth well o'r berthynas rhwng microadeiledd clotiau gwaed a dynameg y broses geulo, a sut mae'r rhain yn wahanol mewn cyflyrau afiach.

Researcher using a microscope

I-rheo – Mesur Priodweddau Rheolegol “fesul cam”

Mae'r papur hwn yn trafod datblygu dull dadansoddol newydd ar gyfer darparu priodweddau rheolegol drwy fesur syml o straen fesul cam, gan ddileu'r angen i gael mesuriadau osgiliadol. Rydym yn dangos y gall y dechneg hon nodweddu system gelio yn gywir ar y pwynt gelio.

Effaith Sepsis A'i Ymateb Llidiol Ar Glotiau Mecanyddol

Mae'r cyhoeddiad hwn yn enghraifft o werthusiad clinigol a wnaed gan yr Uned o fiofarciwr gweithredol ar gyfer microadeiledd clotiau. Mae'n trafod potensial y biofarciwr i nodi newidiadau yn y priodweddau mecanyddol sy'n nodweddiadol o ficroadeiledd clotiau ym mhob math o sepsis (sepsis, sepsis difrifol a sioc septig).

Biofarciwr Newydd Yn Meintioli Gwahaniaethau Mewn Microadeiledd Clotiau Ymhlith

Mae'r papur hwn yn trafod microadeileddau clotiau annormal mewn cleifion â Thrombo-Emboledd Gwythiennol, sy'n awgrymu naill ai ymateb annigonol i therapïau gwrthgeulo neu bresenoldeb cyflwr sy'n hwyluso ceulo nad yw marcwyr ceulo eraill (h.y. y prawf Cymhareb Ryngwladol wedi'i Normaleiddio) yn ei ganfod.

Yr Athro Adrian Evans

Cadair Bersonol, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 602182
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Bethan Thomas

Swyddog Cydymffurfiaeth Ymchwil Meinweoedd Dynol, Medicine
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig