SWYDDI GWAG PRESENNOL MEWN GWYDDONIAETH GYFRIFIADUROL

Byw a gweithio yng Nghymru

Abertawe, yw ‘dinas ger y môr’ Cymru a man geni Dylan Thomas.  Mae'n ddinas forwrol fywiog ac yn ganolfan siopa  ranbarthol - a hefyd yn gartref i brifysgol flaenllaw Cymru, mewn rhan fendigedig o'r byd.

Tafliad carreg i ffwrdd, mae cyrchfan Fictoraidd y Mwmbwls sy'n cynnig amrywiaeth wych o atyniadau gan gynnwys pier, siopau traddodiadol, crefftau a digonedd o hufen iâ: Mae pentref y Mwmbwls yn cael ei hadnabod fel y Porth i'r Gŵyr - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain. Mae Penrhyn Gŵyr yn ymestyn i'r gorllewin o'r Mwmbwls mewn cyfres o olygfeydd arfordirol a gwledig. I'r dwyrain, mae Gwlad y Rhaeadrau yng Nghwm Afan a Chwm Nedd yn hafan i gerddwyr a beicwyr fel ei gilydd.

Yn ogystal â datblygiad gyrfaol, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion gan gynnwys cyflogau cystadleuol, gweithio hyblyg a gwasanaethau iechyd a lles.

Am ragor o wybodaeth am Abertawe a'r cyffiniau, ysgolion lleol ac eiddo yn Abertawe, ewch i:

https://www.swansea.ac.uk/jobs-at-swansea/new-staff/relocating-to-swansea/

Y Coleg Gwyddoniaeth

Mae'r Coleg Gwyddoniaeth yn adran ymchwil-ddwys gyda ffocws rhyngwladol. Trefnir ei ymchwil trwy ddisgyblaethau academaidd, canolfannau ymchwil, sefydliadau, a phrosiectau mawr, gyda phob un yn cael eu cefnogi gan gyfleusterau ymchwil gwych a diwylliant ymchwil ffyniannus.

Gan adeiladu ar ei lwyddiannau diweddar yn y REF a'r gwerthusiadau addysgu, mae'r Coleg yn canolbwyntio ar strategaeth Gwyddoniaeth2020 uchelgeisiol a fydd yn gwneud Abertawe'n ganolbwynt byd-eang o greadigrwydd ac arloesedd mewn gwyddoniaeth.

Y Ffowndri Gyfrifiadol

Bydd y cyfleuster Ffowndri Gyfrifiadol newydd gwerth £32.5 miliwn yn gweithredu fel esiampl ar gyfer cydweithrediadau ymchwil a bydd yn ceisio denu ymchwilwyr blaenllaw i Gymru, gan osod Abertawe wrth wraidd ecosystem ranbarthol ffyniannus o gwmnïau digidol ac ymchwil.

Mae gan yr Adran Gyfrifiadureg brosiectau mawr hirsefydlog yn y maes busnes, addysg a chymdeithas ddinesig gan gynnwys Technocamps a'r Sefydliad Codio. Mae'r adran yn gartref i un o chwe Chanolfan Economi Ddigidol CHERISH-DE a ariennir gan RCUK, ac mae wedi denu Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPSRC newydd mewn Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau Dynol â Data a Systemau a Yrrir gan Ddeallusrwydd.