Trosolwg

Nod ein cynllun ysgoloriaeth corawl ac organ yw cefnogi datblygiad ysgolhaig fel cerddor, mewn partneriaeth ag Eglwys y Santes Fair, Abertawe. Ariennir yr ysgoloriaethau ar y cyd rhwng y Brifysgol, Eglwys y Santes Fair ac Ymddiriedolaeth Gorawl y Santes Fair Abertawe (SSMCT).

Bydd ysgolheigion yn derbyn y buddion canlynol:

  • Hyd at 15 awr o diwtora unigol y flwyddyn ar gyfer eu hofferyn neu lais
  • Bwrsariaeth flynyddol gwerth £650

Disgwylir i ysgolheigion gymryd rhan lawn yng ngherddoriaeth Eglwys y Santes Fair, Abertawe.

Sut i wneud cais

Er mwyn cyflwyno cais am ysgoloriaeth, rhaid cyflwyno ffurflen gais a geirdaon, a chlyweliad wyneb yn wyneb.

Mae ysgoloriaethau ar gael i'r holl fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau gradd a addysgir:

  • Derbynnir ceisiadau gan fyfyrwyr sydd eisoes wedi cofrestru'n unig; y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 22 Hydref.

I wneud cais, llenwch y ffurflenni priodol, a'u hanfon at v.m.walters@abertawe.ac.uk:

Mae manylion y ddogfennaeth a'r gofynion clyweliad ar gyfer yr ysgoloriaethau wedi'u cynnwys gyda'r ffurflen gais hon.

Rheoliadau

Mae Rheoliadau'r Ysgoloriaethau Cerdd presennol yn llywodraethu'r cynllun ysgoloriaethau. Sylwer bod y rheoliadau a'r ffurflen gais yn cyfeirio at fathau eraill o ysgoloriaethau cerdd nad ydynt yn cael eu cynnig ar hyn o bryd gan y Brifysgol.