Lumpfish

YNGLŶN Â'R IS-BWYLLGOR UNIONDEB YMCHWIL, MOESEG A LLYWODRAETHU

Mae Is-bwyllgor Uniondeb Ymchwil, Moeseg a Llywodraethu'n darparu trosolwg strategol o faterion sy'n ymwneud â moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg mewn perthynas â'r cyfadrannau eraill a'r Brifysgol. Mae'r is-bwyllgor yn adrodd yn uniongyrchol i Bwyllgor Uniondeb Ymchwil, Moeseg a Llywodraethu'r Brifysgol.

Mae aelodau o bob ysgol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn cynrychioli'r pwyllgor. Hefyd, mae gan bob adran is-bwyllgor sy'n adolygu ceisiadau moesegol gan eu hadrannau perthnasol.

Cylch gwaith y pwyllgor yw sgrinio holl weithgareddau ymchwil yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg o safbwynt moesegol (wrth gynnal ymchwil y tu allan i'r DU, dylid ceisio caniatâd moesegol yn lleol hefyd drwy Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran.

Mae Pwyllgor Moeseg y Gyfadran yn nodi nad oes un diffiniad o “ymchwil” na “data” a dderbynnir, gan y gall y rhain amrywio yn ôl y pwnc yn ogystal â'r cyd-destun. Er enghraifft, efallai y gofynnir i fyfyrwyr “ymchwilio” i bwnc pan olygir casglu gwybodaeth a darllen neu ystyried ffynonellau.

Felly, dyma'r diffiniadau gweithredol o ymchwil a data y mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg wedi'u mabwysiadu i'n helpu i sgrinio prosiectau ymchwil at ddiben cydymffurfio â moeseg ymchwil: 

Mae ymchwil yn broses ymchwilio sy'n golygu casglu data a'r defnydd o resymu i gadarnhau ffeithiau, dod i gasgliadau a chreu gwybodaeth.

Mae data yn golygu deunyddiau, ffeithiau ac ystadegau a gesglir at ei gilydd i gyfeirio atynt neu eu dadansoddi drwy ymchwil.

Rhagor o wybodaeth

ADNODDAU