Rydym yn ymdrechu i'n hymchwil gael effaith wirioneddol

solar panel roof of active building

Yn Gwneud Gwahaniaeth ers 1920

O ddatblygiad y Dull Elfen Finite yn Abertawe yn y 1960au i'n gwaith ymchwil heddiw sy'n troi adeiladau yn orsafoedd pŵer, rydym yn ymdrechu i'n hymchwil gael effaith wirioneddol.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf, yn 2021 mae ein cyfleusterau a’n hamgylchedd ymchwil wedi galluogi cyd-weithwyr i ymgysylltu’n rhyngwladol, gan ddyrchafu 100% o gyhoeddiadau'r adran i safon sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol.  

Gyda'n canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf a rhaglen fuddsoddi barhaus i ddarparu adnoddau a chyfleusterau rhagorol, mae'r peirianneg yn darparu amgylchedd gwych i gynnal ymchwil iddo.

Ein Themâu Ymchwil

Mae ein themâu ymchwil trawsbynciol yn dod â thimau amlddisgyblaethol ynghyd, gan integreiddio sbectrwm eang o ddisgyblaethau peirianneg sy'n ein helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.

Digidol A Chyfrifiadurol

Rydym wedi bod yn ffigur blaenllaw wrth chwyldroi ymarfer dadansoddi peirianneg ddiwydiannol, o arbrofion araf a chostus i fodelau cyfrifiadurol effeithlon a rhad.

Dŵr ac Ynni

Mae ein gwaith ymchwil yn edrych ar ddŵr croyw a heli a'i nod yw gwella dealltwriaeth wyddonol a datblygu datrysiadau peirianneg effeithiol i broblemau yn y byd go iawn.

Defnyddiau a Gweithgynhyrchu

Ymhlith y meysydd ymchwil allweddol mae dylunio i atal methiant drwy ymgripiad, lludded a difrod amgylcheddol, serameg a metelau strwythurol ar gyfer cymwysiadau tyrbinau nwy, peirianneg ffiniau graen, ailgylchu polymerau a defnyddiau cyfansawdd, mecanweithiau cyrydu'r genhedlaeth newydd o aloion magnesiwm, datblygu graddau newydd ar gyfer dur stribed (IF, HSLA, Dual Phase, TRIP) a chaenau gweithredol ar gyfer cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni.

Iechyd, Lles a Chwaraeon

Mae ein gwaith yn ymwneud ag amrywiaeth eang o gyd-destunau, o chwaraeon elitaidd a phroffesiynol i amgylcheddau clinigol ac addysgol ac amgylchedd y cartref.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.