Trosolwg Grŵp
Ein Diddordebau Ymchwil a'n Harbenigedd:
- Arbenigedd wrth ddatblygu synwyryddion biolegol, cemegol, trydanol, optegol a mecanyddol.
- Datblygu synwyryddion newydd ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau, megis dibenion meddygol, amgylcheddol, y rhyngrwyd pethau, gweithgynhyrchu, amddiffyn, amaethyddiaeth, moduro a hedfan etc.
- Dylunio a datblygu synwyryddion hynod sensitif a detholus sy'n seiliedig ar systemau deunyddiau newydd, megis nanoddeunyddiau, ocsidau metel, MXenes, TMD (transition metal dichalcogenides) a chyfansoddion organig-anorganig etc.
- Datblygu technolegau uwch i gynhyrchu synwyryddion ar raddfa fawr am bris cymharol rad.
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol wrth ddadansoddi data.
Isod ceir rhai enghreifftiau o'n gweithgareddau ymchwil:
- Nanobiosynwyryddion argraffedig am gost isel, dull hynod sensitif o ganfod cytomegalofirws dynol mewn babanod newydd eu geni.
- Ffotosynwyryddion band-eang ar gyfer cyfathrebu optegol a chymwysiadau biofeddygol.
- Micronodwyddau mewn synwyryddion gwisgadwy ar gyfer monitro clefydau cronig mewn ffordd nad yw’n fewnwthiol iawn.
- Synwyryddion Adnabod Amleddau Radio ar gyfer dinasoedd clyfar, monitro'r amgylchedd, iechyd a diogelwch.
- Synwyryddion nwy metel ocsid ar gyfer monitro'r amgylchedd ac iechyd.
- Synwyryddion cemegol sy'n seiliedig ar gyfansoddion organig-anorganig ar gyfer monitro diogelwch bwyd.
- Synwyryddion electrogemegol rhad wedi'u huwchgylchu o wastraff bwyd ar gyfer monitro yn y man a'r lle ficrolygryddion sy'n ymddangos mewn dŵr.
- Synwyryddion MEMS ar gyfer cymwysiadau biosynhwyro.