Mae ein Hacademi Iechyd a Llesiant newydd o’r radd flaenaf wedi ei lleoli ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Mae gan ein lleoliad canolog gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol gyda'r orsaf fws agosaf wedi’i lleoli'n gyfleus 150m yn unig i ffwrdd. Mae parcio am ddim hefyd ar gael union gyferbyn â'r brif fynedfa.

Mae ein Hacademi yn cael ei staffio gan ymarferwyr cymwys iawn sy'n gweithio mewn amgylchedd proffesiynol, hamddenol a chyfeillgar.

Ein nod yw cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth er mwyn helpu pobl i wella eu hiechyd a’u llesiant eu hunain drwy ganfod cyflyrau a chynnig diagnosis yn gynnar. Mae nifer o’n gwasanaethau a’n grwpiau cefnogi’n rhad ac am ddim, ac mae ein gwasanaethau â thâl yn cynnig gwerth gwych am arian. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ffoniwch ni ar 01792 518600.

Clinig Clyw Prifysgol Abertawe

Clinig Clyw Prifysgol Abertawe

Y Ganolfan Bydwreigiaeth a Magu Plant

Pregnant lady

Clinig Osteopathig

Clinig Osteopathig