Mae ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr Israddedig ar gael i deithio ar draws y DU ac ymddangos arlein i gynnig sesiynau arbennig Addysg Uwch a chefnogaeth Ffeiriau Gyrfaoedd. Mae hefyd gan ein Swyddogion Recriwtio Israddedig ffocws rhanbarthol, a gallwch gysylltu â nhw trwy’r manylion isod.

Steve Minney

Pennaeth Recriwtio Israddedig Steve Minney

Pennaeth Recriwtio Israddedig

Mae gan Steve 20 mlynedd o brofiad mewn recriwtio myfyrwyr ac arbenigedd mewn pontio i addysg uwch, addysg cymeriad, creu cwricwlwm a pholisi mynediad. Mae wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau cenedlaethol a phanelau arbenigwyr ac roedd yn aelod o’r tîm datblygu a wnaeth gyfrannu at ddiwygio mecanwaith tariff UCAS ar gyfer mynediad 2017. Tu hwnt i’w waith, diddordebau Steve yw nofio yn y môr, ffotograffiaeth a phopeth Bob Dylan.

✉️ Ebostiwch Steve 

Samantha Thompson

Llun o Swyddog Recriwtio Myfyrwyr Samantha Thompson

Rheolwr Recriwtio Israddedig

Mae Samantha wedi gweithio yn y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr ers 2016, ar ôl cael ei lleoli yn Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi’n gyfrifol am y gweithgareddau allgymorth a chyflwynwyd gan y tîm recriwtio israddol, rheoli’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a UCAS, a sefydlodd perthynas y Brifysgol gyda’r rhwydwaith Seren ar draws Cymru.

✉️ Ebostiwch Samantha

Nia Stokes

Swyddog Recriwtio Israddol Nia Stokes

SWYDDOG RECRIWTIO ISRADDEDIG – Canolbarth Lloegr

Fel y cyswllt recriwtio ar gyfer rhanbarth y Canolbarth ym Mhrifysgol Abertawe, mae Nia yn cyflwyno sesiynau addysg uwch yn rhithiol a chorfforol, ac mae’n cadw ei rhanbarth yn ymwybodol o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar y gweill ym Mhrifysgol Abertawe. Os ydych yn athro neu gynghorwr o’r Canolbarth a hoffech gael eich adio i restr e-byst Nia, cysylltwch â hi. Mae ei rôl yn cynnwys creu cynnwys digidol i’r tîm fel blogiau, fideos a phosteri, yn ogystal â rheoli presenoldeb y brifysgol ar wefannau allanol. Mae Nia ynghynt wedi gweithio fel cynorthwyydd yn y Tîm Recriwtio Myfyrwyr, ac wedi bod yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr presennol wrth weithio fel gweinyddwr profiad myfyrwyr yn y Brifysgol.

✉️ Ebostiwch Nia

Vanessa Caines

Swyddog Recriwtio Israddedig Vanessa Caines

Swyddog Recriwtio Israddedig – Llundain

Vanessa yw’r cyswllt ar gyfer ysgolion a cholegau yn rhanbarth Llundain ac mae’n medru cynnig a chynorthwyo gyda digwyddiadau rhithiol neu gorfforol. Ymunodd a Thîm Prifysgol Abertawe ym mis Rhagfyr 2018 ar ôl gweithio fel Arweinydd gyrfaoedd mewn coleg mawr Addysg Bellach am 4 mlynedd. Mae Vanessa wedi’i selio yn Llundain, ac yn cynnig y linc rhwng Llundain ac Abertawe. Mae Vanessa yn mwynhau cwrdd â myfyrwyr o wahanol ardaloedd, a’u cefnogi nhw drwy'r broses UCAS a’u dewisiadau AU.

✉️ Ebostiwch Vanessa

Ben Thomas

Ben Thomas

Swyddog Recriwtio Israddedig – De-Orllewin Lloegr

Rôl Ben yn Swyddfa Recriwtio Prifysgol Abertawe yw pontio’r gap rhwng addysg uwch ac ysgolion yn Ne Orllewin Lloegr. Mae ei rôl yn cynnwys pob elfen o farchnata gan gynnwys adeiladu perthnasoedd gydag ysgolion a cholegau i rannu cyfleoedd a digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n cynnig sesiynau a gweithdai i fyfyrwyr dros sawl pwnc sy’n anelu at ddatblygu eu hymwybyddiaeth o addysg uwch, y broses UCAS ac i gefnogi eu dyheadau am y dyfodol. Bu Ben yn gweithio gyda Swyddfa Datblygiad a Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe lle cysylltodd â chymuned eang o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol drwy gymysgedd o ddigwyddiadau mawr a bach, cyfleoedd elusennol a llawer mwy. Mae wir yn mwynhau siarad â myfyrwyr – darpar, presennol a chyn-fyfyrwyr – mae rhannu rhan fach yn eu profiad prifysgol yn fraint.

✉️ Ebostiwch Ben

Emily Rees

Llun o swyddog recriwtio myfyrwyr Emily Rees

Swyddog Recriwtio Israddedig - Cymru

Emily yw'r swyddog cyfrwng Cymraeg a'r cyswllt recriwtio am ysgolion yng Nghymru. Mae hi'n gallu darparu sesiynau rhithiol ac mewn person yng Nghymraeg ac yn Saesneg. Mae Emily wedi gweithio yn y Brifysgol dros 3 mlynedd ac wedi gweithio at MyUniHub o fewn y brifysgol gan roi cymorth i fyfyrwyr; oherwydd hyn, mae hi'n wybodus am y daith myfyrwyr a'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ar ôl cofrestru. Mae Emily yn mwynhau cwrdd â myfyrwyr ac adeiladu perthnasoedd gydag ysgolion yn ei rhanbarth.

✉️ Ebostiwch Emily