“We had the experience, but we missed the meaning.” T. S. Eliot
Mae Casgliad Hanes Cyfrifiadura'r Brifysgol yn cynnwys offer, meddalwedd, archifau, effemera, hanesion llafar a fideos. Sefydlwyd y Casgliad yn ystod hydref 2007 er mwyn astudio datblygiad ac arloesedd technolegol hanesyddol, a'r berthynas rhwng technolegau cyfrifiadura â phobl a'r gymdeithas yn benodol.
Un ffocws pwysig yw datblygiad cyfrifiadura yng Nghymru. Trwy ymchwilio i hanes cyfrifiadura yn lleol, rydym wedi canfod ein bod ni'n gallu gweld a cheisio deall cydadwaith "achosion ac effeithiau" technegol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn well.
Mae'r Casgliad hefyd yn ymwneud â meysydd arbenigol penodol o gyfrifiadura. Mae'r dewis o'r pynciau hyn yn adlewyrchu diddordebau aelodau Prifysgol Abertawe a chyfeillion y Casgliad. Er enghraifft, mae gennym archif L. J. Comrie, FRS (1893-1950), arloeswr dulliau rhifiadol, sy'n cynnwys nodiadau a'i gasgliad o dablau mathemategol; ac mae gennym archifau sy'n dangos datblygiad cyfrifiadureg ddamcaniaethol a dulliau ffurfiol ar gyfer peirianneg meddalwedd.
Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y Casgliad. Mae hefyd yn declyn ymchwil i adeiladu'r Casgliad, ac i annog pobl i ddehongli a lledaenu hanes cyfrifiadura. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried y syniadau a'r myfyrdodau yma'n ddiddorol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ein helpu i adeiladu'r casgliad; mae croeso mawr i chi gysylltu â ni.
John V Tucker