Gradd Ôl-Raddedig a Addysgir

Gallwch ddod o hyd i fanylion am gostau ffioedd dysgu yn y blwch 'Manylion Allweddol y Cwrs' ar bob tudalen cwrs ôl-raddedig a addysgir.

Codir ffioedd dysgu ar bob myfyriwr yn flynyddol yn ystod cyfnod byrraf posib ymgeisyddiaeth eich rhaglen fel arfer, a byddant yn cynyddu 3% bob blwyddyn.  Amlinellir y cyfnodau ymgeisyddiaeth ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir isod:

RhaglenCyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth
Gradd Meistr; amser llawn (180 credyd) 1 blwyddyn
Gradd Meistr ran-amser (hyblyg) (90 credyd y flwyddyn) 2 flynedd
Gradd Meistr ran-amser (60 credyd y flwyddyn) 3 blynedd
Gradd Meistr estynedig amser llawn (120 credyd y flwyddyn) 2 flynedd
Gradd Meistr estynedig ran-amser (60 credyd y flwyddyn) 4 blynedd
  • Mae'r ffioedd dysgu ar gyfer rhaglenni meistr a addysgir yn cynnwys costau'r traethawd estynedig.
  • Cyfrifir y ffioedd dysgu ar gyfer rhaglenni rhan-amser ar sail canran pro rata'r ffi ddysgu amser llawn gyfatebol. 
  • Ar gyfer rhaglenni Erasmus Mundus, mae'r gyfradd Ewro a nodir ar dudalen y cwrs yn ymwneud â'r flwyddyn a dreulir ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o'r cytundeb cydweithio.
  • Cyfrifir modiwlau unigol ar sail canran pro rata'r ffi ddysgu amser llawn gyfatebol. 

Chwiliwch am Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ymchwil a Rhaglenni a Addysgir a allai fod ar gael i chi.

Gradd Ymchwil Ôl-Raddedig

Myfyriwr Rhyngwladol a myfyrwyr yr UE: Mae manylion y ffioedd dysgu ar dudalen pob cwrs ymchwil ôl-raddedig . Codir ffioedd dysgu ar bob myfyriwr yn flynyddol yn ystod cyfnod byrraf posib ymgeisyddiaeth eich rhaglen a byddant yn cynyddu 3% gyda chwyddiant am bob blwydd yn ddilynol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadran Ffioedd Dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol .

Myfyrwyr y DU (a myfyrwyr yr UE cyn pwynt mynediad 2021/22): Codir ffioedd dysgu ar bob myfyriwr yn flynyddol yn ystod cyfnod byrraf posib ymgeisyddiaeth eich rhaglen a byddant yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn unol ag argymhellion yr UKRI.  Caiff cyfnodau'r ymgeisyddiaeth a chostau Ffioedd Dysgu perthnasol eu nodi isod:

RhaglenCyfnod byrraf yr ymgeisyddiaethFfioedd Dysgu (mynediad yn 2022/23)Ffioedd Dysgu (Mynediad yn 2023/24)
PhD (amser llawn) 3 blynedd £4,596 £4,712
PhD (rhan-amser) 6 blynedd £2,298 £2,356
MPhil (amser llawn) 2 flynedd £4,596 £4,712
MPhil (rhan-amser) 4 blynedd £2,298 £2,356
Gradd Meistr drwy Ymchwil (amser llawn) 1 blwyddyn £4,596  £4,712
Gradd Meistr drwy Ymchwil (ran-amser) 2 flynedd £2,298 £2,356
EngD (amser llawn) 4 blynedd £4,596 £4,712
  • Bydd yn ofynnol i chi dalu ffioedd am gyfnod byrraf posib cyfan yr ymgeisyddiaeth, hyd yn oed os caniatawyd i chi gyflwyno'ch traethawd estynedig ynghynt.
  • Efallai bydd rhai rhaglenni'n codi ffioedd mainc am gyfarpar arbenigol neu gostau labordy sy'n angenrheidiol ar gyfer eich ymchwil. Os yw ffioedd mainc yn berthnasol, caiff hyn ei nodi'n glir ar dudalen we'r rhaglen. Caiff yr union swm a godir ei bennu gan eich goruchwyliwr a'i gynnwys yn eich Cynnig i Astudio.
  • Y costau ar gyfer myfyrwyr ymchwil ymweld fydd 50% o'r cyfraddau amser llawn.
  • Y costau ar gyfer myfyrwyr ymchwil cysylltiol fydd 25% o'r cyfraddau amser llawn.
  • Os ydych yn fyfyriwr amser llawn ac yn ymgymryd â'ch ymchwil yn eich gweithle, efallai y gallwch gyflwyno cais fel myfyriwr Allanol (yn unol â mynediad Dull B). Os yw'n berthnasol, bydd cost y ffioedd dysgu 50% o'r gyfradd amser llawn uchod.

Sylwer: Efallai y caiff ffioedd ychwanegol eu codi yn ystod eich cyfnod 'ysgrifennu', os bydd hynny'n briodol ym marn y Byrddau Dilyniant blynyddol, oherwydd goruchwyliaeth sylweddol neu ddefnydd helaeth o labordai.

Chwiliwch am Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ymchwil a Rhaglenni a Addysgir a allai fod ar gael i chi.

Rhagor O Wybodaeth