Mae'r rhestr fer ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr fer eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae pedair nofel, un casgliad o gerddi ac un casgliad o straeon byrion ar y rhestr fer, sydd hefyd yn cynnwys cyfrolau cyntaf tri o'r llenorion: 

  • A Passage North – Anuk Arudpragasam (Sri Lanka, nofel ffuglen)
  • Auguries of a Minor God – Nidhi Zak/Aria Eipe (India, casgliad cyntaf o farddoniaeth)
  • The Sweetness of Water – Nathan Harris (America, nofel gyntaf)
  • No One is Talking About This – Patricia Lockwood (America, nofel)
  • Open Water – Caleb Azumah Nelson ( Prydain-Ghana, nofel gyntaf)
  • Filthy Animals – Brandon Taylor (America, casgliad o straeon byrion)

Mae'r cyfrolau cyntaf ar y rhestr fer eleni'n cynnwys Nidhi Zak/Aria Eipe, a anwyd yn India ac y mae ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Auguries of a Minor God, yn dilyn dwy daith wahanol, yr un gyntaf yn ymwneud â chariad a'r clwyfau y mae'n eu hachosi, a'r ail yn dilyn teulu o ffoaduriaid sydd wedi ffoi i'r gorllewin rhag gwrthdaro arfog mewn gwlad amhenodol yn y Dwyrain Canol; y clasur cyfoes The Sweetness of Water gan Nathan Harris, sy'n cyfuno ffuglen hanesyddol â gwirionedd cymhleth y gymdeithas sydd ohoni; ac Open Water, y stori serch boenus o odidog (sy'n cael ei gwerthu mewn 13 o diriogaethau ym mhedwar ban byd bellach) gan Caleb Azumah Nelson, y llenor 25 oed o gefndir Prydeinig-Ghanaidd, sy'n taflu goleuni ar hil a gwrywdod.

Mae'r ymgeiswyr am y wobr £20,000 uchel ei bri hefyd yn cynnwys: Patricia Lockwood, y nofelydd o America sydd wedi bod ar frig rhestrau gwerthu llyfrau'n rhyngwladol, am No One is Talking About This, ei myfyrdod ar gariad, iaith a chysylltiadau rhwng pobl a gyrhaeddodd restr fer The Booker Prize hefyd; Anuk Arudpragasam, y llenor o Sri Lanka, am A Passage North, ei nofel feistrolgar sy'n archwilio henaint ac ieuenctid, yn ogystal â cholli a goroesi yn dilyn y rhyfel cartref 30 mlynedd yn Sri Lanka, a fu ar restr fer The Booker Prize hefyd; a Filthy Animals gan Brandon Taylor, sy'n tynnu ynghyd straeon cynnil o druenus am bobl sy'n ymdopi â thrais a chwant wrth hiraethu am agosatrwydd.

Dewiswyd y chwe chyfrol ar y rhestr fer gan banel beirniadu wedi'i gadeirio gan Namita Gokhale, cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur ac awdur arobryn, ochr yn ochr â phanel trawiadol o feirniaid, gan gynnwys Rachel Trezise, y nofelydd a'r dramodydd o Gymru a enillodd Wobr Dylan Thomas yn 2006; Luke Kennard, y bardd a'r nofelydd uchel ei fri a enillodd wobr Forward am farddoniaeth yn 2021; Alan Bilton, y nofelydd sy'n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe; ac Irenosen Okojie, yr awdures o Brydain a anwyd yn Nigeria ac a enillodd MBE am wasanaethau i lenyddiaeth yn 2021.

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf clodfawr yn y DU a hi yw'r wobr lenyddol fwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Mae'n dathlu ffuglen ryngwladol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.

Meddai Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid: “Roedd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022 yn un o'r rhai cryfaf erioed. Mae'r panel wedi dewis rhestr fer sy'n afaelgar ac yn ysgogol ar sawl lefel. Mae'n cyflwyno amrywiaeth gyfoethog o leisiau ifanc a newydd clodwiw, a'u myfyrdodau barddonol, hanesyddol a chyfoes.”

Cynhelir y Seremoni Wobrwyo yn Abertawe ar 12 Mai, ddau ddiwrnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.

Rhannu'r stori