Dr Yuanbo Wu

Uwch-ddarlithydd

Cyfeiriad ebost

223
Ail lawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Derbyniodd Dr Lin Yuanbo Wu ei PhD o Brifysgol New South Wales, Kensington, Sydney, Awstralia. Mae ganddi ddiddordebau ymchwil eang o ran tasgau golwg cyfrifiadurol a dysgu peirianyddol gyda chymhelliad cryf i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth dros 70 o erthyglau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid (gan gynnwys dwy bennod mewn llyfr) mewn cyfnodolion a thrafodion o bwys. Arbenigedd Dr Wu yw deall cynnwys fideo (megis segmentu enghreifftiau /panoptig/gwrthrychau, canfod/olrhain gwrthrychau mewn fideo), ail-nodi targedau, dysgu fesul cam, deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, a datblygiadau deallusrwydd artiffisial ar gyfer astudiaethau meddygol. Derbyniodd Wobr Twf 2021 yn 4edd Gystadleuaeth Arloesi ac Entrepreneuriaeth Eureka (Eureka IIEC 2021, Melbourne, Awstralia). Ar hyn o bryd mae Dr Wu yn Olygydd Cysylltiol IEEE Trans on Neural Networks and Learning Systems (IF: 14.255), IEEE Trans on Multimedia (IF: 8.182), IEEE Trans on Big Data (IF: 4.271), a Pattern Recognition Letters (IF: 4.757). Fe'i gwahoddwyd i fod yn Gadeirydd Ardal gyda ACM Multimedia 2023 (Ottawa), 2022 (Lisbon). Mae Dr Wu yn Uwch-aelod o’r IEEE. 

Meysydd Arbenigedd

  • Gweld â chymorth cyfrifiadur
  • Canfod gwrthrych
  • Olrhain sawl gwrthrych
  • Segmentu enghreifftiau o delweddau a gwrthrych a segmentu panoptig
  • Dysgu peirianyddol
  • Deallusrwydd artiffisial ar gyfer biowyddoniaeth
  • Cynhyrchu fideos
  • Amcangyfrif gwrthrychau 6D

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae Lin yn canolbwyntio ar heriau ymchwil sy'n torri tir newydd mewn amrywiaeth o feysydd gyda golwg cyfrifiadurol, dysgu peirianyddol, a disgyblaethau deallusrwydd artiffisial a’r biowyddorau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau. Mae cyfleoedd presennol yn cael eu hamlinellu gyda chynhyrchu/golygu fideos, segmentu esiamplau ar ddelweddau a fideos, cynhyrchu/rhagfynegi strwythur proteinau, amcangyfrif gwrthrychau 6D ac ail-adnabod targedau mewn gwaith goruchwylio.

Dyma her deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol cynllun ymchwil archwiliol Lin: A Tracking-Discriminating Deep Generative Model for Real-Time Anomaly Detection in Videos, wedi'i ariannu'n llawn gan Airbus Endeavr, Cymru (Mai 2023-Ebrill 2024, £150,000), gydag estyniad posib o fis Mai 2024-Ebrill 2026 (tua £300,000).