Trosolwg
Mae Dr Suyang Li ar hyn o bryd yn Ddarlithydd Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth. Mae hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen y rhaglenni BSc, gan ganolbwyntio ar achredu a derbyn, ac yn Arholwr Allanol i Brifysgol Ulster.
Mae ganddo MSc mewn Cyllid o Brifysgol Glasgow a PhD mewn Cyllid o Brifysgol Nottingham. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2024, bu’n Ddarlithydd Cyllid ym Mhrifysgol Coventry, Llundain, lle derbyniodd sawl gwobr addysgu. Mae ganddo hefyd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (PGCertHE) ac mae’n Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch (FHEA).
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar gyllid corfforaethol a chyllid cynaliadwy. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol o fri, gan gynnwys British Journal of Management, Journal of Economic Behavior & Organization, Journal of International Money and Finance, a Journal of Empirical Finance.