Hysbysiad Preifatrwydd: Recordio Darlithoedd a Chyfarfodydd

Hysbysiad Preifatrwydd: Recordio Darlithoedd a Chyfarfodydd

Mae pandemig COVID 19  wedi newid y ffordd mae Prifysgol Abertawe'n gweithio ac yn darparu ei gwasanaethau. Mae'r gallu i recordio darlithoedd a chyfarfodydd er mwyn gwella profiad y myfyrwyr a galluogi ysgrifenwyr cofnodion i gyflawni eu tasg neu alluogi cyfranogwyr i gyrchu recordiad o gyfarfod neu ddarlith wedi dod yn gynyddol bwysig i fyfyrwyr a staff.

Y Brifysgol fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a brosesir mewn cysylltiad â recordio darlithoedd a chyfarfodydd. Mae gan y Brifysgol gytundebau contract gyda chyflenwyr trydydd parti megis Zoom a Microsoft i ddarparu gwasanaethau prosesu a storio data yn ddiogel gan gydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol. Mae hyn yn berthnasol i gyfarfodydd byw a storio recordiadau a thrawsgrifiadau sgwrsio ar eu llwyfan cwmwl.

Y math o ddata sy’n cael ei gasglu

Gall y brifysgol gasglu'r data personol canlynol wrth recordio sesiynau:-

  • Enw
  • Barn bersonol
  • Cyfraniadau at drafodaethau a sgyrsiau
  • Lluniau (lle caiff sesiwn ei recordio ar fideo)

Sut caiff ei ddefnyddio a'i rannu?

Diben recordio sesiynau yw:

  • Sicrhau bod deunydd cwrs a sesiynau dosbarth ar gael i fyfyrwyr y gall fod ganddynt anawsterau cymryd rhan mewn dysgu o bell cydamserol;
  • Sicrhau bod sesiynau ar gael i'w gwylio eto er mwyn gwreiddio dysgu neu atgyfnerthu gwybodaeth a ddarparwyd;
  • Caniatáu ysgrifennu cofnodion cyfarfodydd yn gywir;
  • Mewn rhai achosion, darparu recordiadau o gyfarfodydd i unigolion.

Sail gyfreithlon dros gasglu'r data hwn

Yn unol â chyfraith diogelu data, y GDPR Erthygl 6 (1), mae gan y Brifysgol nifer o seiliau cyfreithlon sy'n caniatáu i ni gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol. Bydd y Brifysgol yn dibynnu ar Erthygl 6(1)(f) Buddiannau Dilys i brosesu'r data hwn. Mae hyn yn berthnasol pan na fydd prosesu data yn ofynnol yn ôl y gyfraith ond mae o fudd amlwg i'r sefydliad neu'r unigolyn, ac mae effaith gyfyngedig ar breifatrwydd yr unigolyn a chredwn y byddech chi'n disgwyl yn rhesymol i ni ddefnyddio'r data personol yn y ffordd rydym am ei ddefnyddio.

Casglu a chadw data

Ni fydd y Brifysgol yn cadw data personol yn hwy na'r cyfnod sy'n angenrheidiol i gyflawni'r diben y cafodd ei gasglu ar ei gyfer, at ddiben bodloni gofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

Lle bynnag y bo modd, caiff eich data ei brosesu yn y DU. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd angen trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU - er enghraifft, pan fyddwn yn defnyddio cyflenwr trydydd parti er mwyn prosesu data ar ein rhan. Os byddwn yn trosglwyddo data'n rhyngwladol, caiff mesurau diogelu priodol eu gweithredu a gwneir y gwaith prosesu ar sail cyfarwyddiadau a nodwyd gan Brifysgol Abertawe.

Eich Hawliau

Mae deddfwriaeth diogelu data'n darparu nifer o hawliau gwahanol i unigolion mewn perthynas â'u data. I gael rhagor o fanylion am eich hawliau, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/about-us/compliance/data-protection/your-rights/ 

Y weithdrefn gwyno

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd mae'ch gwybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu, i ddechrau, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol yn  dataprotection@abertawe.ac.uk.

Os ydych yn parhau'n anfodlon wedi hynny, mae gennych hawl i gysylltu'n uniongyrchol â'r Comisiynydd Gwybodaeth a gofyn am benderfyniad. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,

Wycliffe House,

Water Lane,

Wilmslow,

Swydd Gaer,

SK9 5AF

 

Mae rhagor o wybodaeth am brosesu data personol myfyrwyr a staff ar gael drwy'r hysbysiadau preifatrwydd canlynol:-

Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr - Prifysgol Abertawe

Hysbysiad Preifatrwydd Staff - Prifysgol Abertawe