Mae Prifysgol Abertawe ("y Brifysgol") yn casglu ac yn cofnodi manylion cyswllt unigolion sy'n defnyddio mangreoedd penodol fel yr amlinellir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru https://gov.wales/keeping-records-staff-customers-and-visitors-test-trace-protect, er mwyn cefnogi mesurau Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru yn ystod pandemig COVID-19. Defnyddir eich manylion cyswllt i alluogi GIG Cymru i gysylltu â chi os ydych wedi bod yn y fangre tua'r un amser â rhywun sydd wedi cael prawf cadarnhaol am y coronafeirws. Mae cysylltu â phobl sydd efallai wedi cael cysylltiad â'r feirws yn gam pwysig wrth atal ymlediad.

Rhesymau dros gasglu'r data

Er mwyn cynorthwyo wrth reoli'r feirws, ni fydd y Brifysgol yn rhannu eich data ond pan fydd cais uniongyrchol amdano gan GIG Cymru i'w ddefnyddio yn y cynllun tracio ac olrhain. Mae rhagor o wybodaeth am gynllun tracio ac olrhain GIG Cymru ar gael ar y wefan hon:  https://gov.wales/keeping-records-staff-customers-and-visitors-test-trace-protect

Y math o ddata a gesglir

Yn ogystal â'r dyddiad ac amser rydych chi'n bresennol yn un o’n mangreoedd, byddwn yn casglu'r data personol canlynol, os yw'n berthnasol ac os nad yw wedi'i gasglu eisoes fel rhan o'n gweithrediadau pob dydd:

Staff

  • Enwau'r staff sy'n gweithio yn y fangre.
  • Rhif ffôn cyswllt ar gyfer pob aelod staff.
  • Cyfeiriad e-bost staff.
  • Y dyddiadau a'r amserau mae'r staff yn y gwaith.

Myfyrwyr ac ymwelwyr

  • Enwau myfyrwyr neu ymwelwyr.
  • Rhif ffôn cyswllt ar gyfer pob myfyriwr neu ymwelydd, neu ar gyfer arweinydd grŵp o bobl.
  • Cyfeiriad e-bost myfyriwr.
  • Dyddiad yr ymweliad a'r amser cyrraedd a gadael.

Ni ofynnir am eich gwybodaeth iechyd ac ni chaiff ei storio.

Sail gyfreithlon dros gasglu'r data hwn

Yn unol â chyfraith diogelu data, GDPR Erthygl 6 (1), mae gan y Brifysgol nifer o seiliau cyfreithlon sy'n caniatáu i ni gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol. Pan fo gofyniad cyfreithiol arnom ni i gasglu’r data hwn yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, ein sail gyfreithiol fydd Erthygl 6(1)(c) – mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â gofyniad cyfreithiol y mae’r rheolydd yn destun iddo. Bydd y Brifysgol yn dibynnu ar Erthygl 6(1)(f) i gasglu data mynediad i’r safle pan ei bod yn niddordebau dilys y Brifysgol i sicrhau diogelwch pob aelod o’n staff, ein myfyrwyr, a’n hymwelwyr â’r campws.

Cadw Data

Caiff eich data personol ei gadw at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd yn unig a bydd y Brifysgol yn ei gadw am dair wythnos (21 o ddiwrnodau) ar y mwyaf.

Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?

Ni fydd y Brifysgol yn rhannu'r wybodaeth hon â neb ond Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru a hynny pan fydd ei angen i gefnogi'r broses olrhain cysylltiadau yn unig.

Eich Hawliau

Mae deddfwriaeth diogelu data'n darparu nifer o hawliau gwahanol i unigolion mewn perthynas â'u data. I gael rhagor o fanylion am eich hawliau, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/about-us/compliance/data-protection/your-rights/ 

Y weithdrefn gwyno

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd mae'ch gwybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu, i ddechrau, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol yn  dataprotection@abertawe.ac.uk.

Os ydych yn parhau’n anfodlon wedi hynny, mae gennych yr hawl i gysylltu'n uniongyrchol â'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael penderfyniad. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,

Tŷ Wycliffe,

Water Lane,

Wilmslow,

Swydd Gaer,

SK9 5AF