DYDDIADAU TALU ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR AR GYFER 2023/24

BLWYDDYN ACADEMAIDD 2023/24

DYDDIADAU TALU ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR AR GYFER 2022/23

BLWYDDYN ACADEMAIDD 2022/23

ADDYSG ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR

Pa delerau talu sy'n cael eu cynnig?

Mae ffioedd dysgu yn daladwy yn llawn wrth gofrestru, ond mae'r Brifysgol yn ymwybodol o'r baich ariannol a allai godi yn sgil talu ffioedd dysgu, felly bydd yn caniatáu i fyfyrwyr dalu mewn 3 rhandaliad (33%, 33% a 34%).

Noder na fydd unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau a ddyfarnwyd i chi yn cyfrif tuag at daliad eich rhandaliad cyntaf. Er enghraifft, os yw’ch ffioedd yn £5,500 a’ch bod wedi derbyn ysgoloriaeth o £1,000, caiff swm yr ysgoloriaeth ei ddidynnu felly byddai gennych chi 3 rhandaliad o 33%, 33% a 34% i’w talu.

Os byddwch yn dewis manteisio ar yr opsiwn rhandaliadau, gofynnir i chi gyflwyno mandad debyd uniongyrchol dilys cyn neu wrth gofrestru. Yna, byddwn yn gwneud trefniadau i gasglu'r ffioedd mewn 3 rhandaliad ar y dyddiadau canlynol, yn dibynnu ar y math o gwrs a dyddiad cychwyn eich cwrs.

Mae’r trefniadau talu ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil yn amrywio ychydig o’u cymharu â’r trefniadau ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir. Y prif reswm yw bod Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir yn fras yn dilyn strwythur y flwyddyn academaidd Israddedig, tra bod myfyrwyr Ymchwil yn cofrestru ar gylch treigl o 12 mis.

Math o gwrsDyddiad dechrauRhandaliad 1af 33%2il randaliad 33%3ydd rhandaliad 34%
Ymchwil Ôl-raddedig Hyd 2022 04/11/2022 10/02/2023 08/06/2023
Ymchwil Ôl-raddedig Ion 2023 10/02/2023 12/05/2023 04/09/2023
Ymchwil Ôl-raddedig Ebr 2023 08/04/2023 07/08/2023 07/12/2023
Ymchwil Ôl-raddedig Gorff 2023 10/07/2023 07/11/2023 08/03/2024
Ymchwil Ôl-raddedig Hyd 2023 01/11/2023 10/02/2024 06/06/2024
Ymchwil Ôl-raddedig Ion 2024 10/02/2024 10/05/2024 04/09/2024
Ymchwil Ôl-raddedig Ebr 2024 30/04/2024 07/08/2024 07/12/2024
Ymchwil Ôl-raddedig Gorff 2024 22/07/2024 07/11/2024 08/03/2025

                      

(Bydd Myfyrwyr Ymchwil Rhyngwladol yn talu 50% wrth gofrestru a 25% yr un ar gyfer yr 2il a’r 3ydd rhandaliad)

CONVERA GLOBALPAY

Dylid gwneud POB taliad i Brifysgol Abertawe drwy ein partner taliadau, Convera, fel y nodir isod:

Gall pob myfyriwr dalu ei ffioedd gan ddefnyddio platfform taliadau Prifysgol Abertawe sy'n cael ei bweru gan ein partner Convera GlobalPay.

Mae hyn yn caniatáu i chi, eich rhieni a'ch noddwyr dalu ffioedd myfyrwyr GBP yn yr arian o'ch dewis mewn ffordd syml a diogel.

TAFLEN WYBODAETH MYFYRWYR (CLICIWCH I AGOR)

Sut i dalu gyda Convera GlobalPay:

  1. Yn syml, dewiswch o ba wlad rydych chi'n talu, yr hyn rydych chi'n ei dalu amdano, a'r dull talu o’ch dewis.
  2. Rhowch eich manylion myfyriwr, gan ddilyn y manylion talwr.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau talu a gwnewch eich taliad.

Payment Logos

 

CONVERA - SUT I DALU

MANTEISION I CHI

  • Gall myfyrwyr, rhieni a noddwyr ddefnyddio'r platfform hwn i dalu blaendaliadau, ffioedd dysgu a mwy.
  • Byddwch yn osgoi taliadau trafodion costus gan eich banc.
  • Gallwch dalu ar-lein drwy opsiynau poblogaidd gan gynnwys trosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu ddebyd neu eWallet.
  • Gallwch gymharu opsiynau talu ar unwaith. Mae Convera yn cadw’r gyfradd gyfnewid am 72 awr.
  • Os ydych chi’n dod o hyd i ddyfynbris rhatach gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un raddfa gyda'u Gwarant Addewid Pris.
  • Gwiriwch eich statws talu trwy SMS ac e-bost.
  • Platfform amlieithog ar gael mewn 10 iaith.
  • Mynediad at wasanaeth sgwrsio byw 24/7 ar y platfform neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar: students.convera.com/#!/contacts     
  • Platfform wedi'i adeiladu gyda diogelwch mewn golwg er mwyn diogelu eich arian.
  • Gallwch ddechrau ad-daliadau yn hawdd os bydd amgylchiadau'n newid.
  • Talwch eich ffioedd trwy bartner byd-eang sydd wedi bod yn helpu myfyrwyr i wireddu eu breuddwydion addysg ers dros ddegawd.
  • Tawelwch meddwl; rydych chi'n cael tipyn o fargen. Os ydych chi’n dod o hyd i bris is gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un pris i chi. Dysgwch fwy am yr Addewid Pris. (Telerau ac Amodau yn berthnasol).

Gwybodaeth Bellach

Sesiynau 'Galw Heibio' Cyllid

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ffioedd dysgu a’ch bod am siarad ag aelod o'n tîm, mae gennym Sesiynau Galw Heibio ar Gampws y Parc, ar y dyddiau a'r amseroedd isod.

Campws Singleton - Adran Gyllid, Llawr Gwaelod:

Dydd Mawrth 10:00yb - 12:00yp
Dydd Iau 2:00yp - 4:00yp

Gallwch fynd i’n sesiynau sgwrsio byw ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod:

 

Sgwrs Fyw

Dydd Llun 2.00yp - 4.00yp
Dydd Mercher 2.00yp - 4.00yp
Dydd Gwener 2.00yp - 4.00yp

          Ebost: income.tuition@swansea.ac.uk