Os ydych yn awyddus i gyfuno astudiaethau yn y brifysgol â hyfforddiant chwaraeon perfformiad uchel, mae ein rhaglen Chwaraeon Perfformiad Uchel a'n rhaglen Ysgoloriaeth Chwaraeon i Athletwyr Talentog yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr i'ch helpu i gyflawni eich nodau academaidd a'ch nodau o ran chwaraeon.

Yma yn Abertawe, mae ein tîm profiadol yn deall y pwysau sy'n gysylltiedig â chyfuno astudiaethau â gofynion hyfforddi ar gyfer chwaraeon ar lefel elît.

Rydym yn cynnig pecyn cymorth heb ei ail i athletwyr ar ein rhaglenni perfformiad er mwyn iddynt allu parhau i wireddu eu breuddwydion o ran chwaraeon gan ragori'n academaidd ar yr un pryd.

Mae ein rhaglenni ysgoloriaeth cynhwysfawr yn cynnwys hyfforddiant, hyfforddiant cryfder a chyflyru, cymorth seicoleg a hyfforddiant ffordd o fyw mewn perthynas â pherfformiad. Mae rhai o'n hysgoloriaethau hefyd yn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol.

Yn Chwaraeon Abertawe, rydym yn cynnig dau fath o raglen ysgoloriaeth:

Sut I Wneud Cais Am Ysgoloriaeth

Un ffurflen gais sydd ar gyfer y ddwy ysgoloriaeth. Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, caiff ei asesu gan ein panel dethol, ac os byddwch yn llwyddiannus, cewch wybod pa lefel o ysgoloriaeth y byddwch yn ei chael.

Bydd ceisiadau ar gyfer dechrau/cofrestru ym mis Medi 2023 yn ailagor yn ystod y ffenest glirio rhwng 17 Awst a 25 Awst. Cliciwch y botwm isod i gyflwyno cais.

Mae rhestr o gwestiynau cyffredin isod, ond os na allwch ddod o hyd i'r ymateb priodol, mae croeso i chi anfon e-bost i'r tîm. 

Gwnewch Gais Nawr