Y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM)

Y Cysyniad
Y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol

Yn cyfuno platfformau a phrosesau lled-ddargludydd a deunyddiau uwch i ddarparu technolegau a chynhyrchion newydd. Yn helpu i feithrin y sgiliau a'r doniau i sicrhau bod ein diwydiant yn parhau ar flaen y gad.

Yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, o ymchwil awyr las i ymchwil a datblygu technoleg, prototeipio a datblygu prosesau, gwasanaethau arbenigol, deori, ymgysylltu, hyfforddiant a mynediad i bortffolio grantiau arloesi'r DU a'r UE.

Gweithgynhyrchu'n cwrdd ag ymchwil a datblygu

Bydd y Ganolfan yn darparu cyfleuster integredig pwrpasol ar gyfer ymchwil a datblygu technoleg lled-ddargludydd ar Gampws y Bae newydd Prifysgol Abertawe, gan gynnwys:

  • Ystafelloedd glân safon gweithgynhyrchu, wedi'u hachredu gan ISO, at ddiben datblygu prosesau
  • Gallu integreiddio a phecynnu deunyddiau diwedd proses
  • Labordai ymchwil NNG uwch
  • Cyfleuster twf II/III-VI MOCVD
  • Lleoliadau i gwsmeriaid ddeori BBaCh
  • Mynediad i gyfleusterau nodweddu a dadansoddi uwch [microsgopeg, dadansoddi arwynebau, cemegol, optegol, trydanol]

Mynediad i'r deunyddiau diweddaraf a damcaniaeth ac efelychu lefel dyfais

Y Bartneriaeth Yr Adeilad Cysylltu