Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr Llywodraeth y DU (TEF)
Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (TEF) yn cydnabod addysgu rhagorol ymhlith darparwyr addysg uwch y DU trwy eu sgorio fel aur, arian neu efydd. Mae'r canlyniadau’n helpu darpar fyfyrwyr i ddewis lle i astudio.
Datganiad o ganfyddiadau
Adolygodd Panel y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu fetrigau a chyflwyniad y darparwr yn unol â'r broses a'r meini prawf a bennir yng nghanllawiau'r Fframwaith.
Dangosodd metrigau'r darparwr, wedi'u hategu gan y cyflwyniad, fod myfyrwyr o bob math o gefndir yn cyflawni canlyniadau rhagorol yn gyson. Yn benodol, nododd y Panel fod y cyfraddau symud ymlaen i gyflogaeth fedrus iawn neu astudiaethau pellach, a boddhad myfyrwyr â chymorth academaidd i fyfyrwyr amser llawn, uwchlaw meincnod y darparwr. Mae'r cyfraddau parhad a boddhad myfyrwyr o ran addysgu ac asesu ac adborth yn gyson â meincnod y darparwr.
Bu'r Panel yn ystyried cyflwyniad a metrigau ategol y darparwr, lle bo'n briodol, mewn perthynas â meini prawf y Fframwaith ac mae ei farn yn adlewyrchu tystiolaeth, yn benodol, o:
- strategaeth cyflogadwyedd glir â lefelau uchel iawn o ymgysylltu â chyflogwyr a chyrff proffesiynol
- cynllun cyrsiau ac arferion asesu sy'n rhoi cyfleoedd dysgu difyr i fyfyrwyr, gan arwain at fyfyrwyr yn magu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf
- cymorth o ansawdd uchel, wedi'i bersonoli, ar gyfer dysgu myfyrwyr, gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg a gofal bugeiliol
- cryfder ac amrywiaeth partneriaethau rhwng staff a myfyrwyr
- ymagwedd draws-ddisgyblaethol at ymchwil effeithiol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yn dylanwadu ar ddysgu ac addysgu
- diwylliant cryf o wobrwyo a chydnabod addysgu ac integreiddio ag ymchwil ac ysgolheictod
- adnoddau ffisegol a digidol neilltuol, â lefelau uchel o fuddsoddi i wella dysgu myfyrwyr.
Yn gyffredinol, roedd y Panel o'r farn bod y cyfuniad o dystiolaeth ym metrigau'r darparwr a chyflwyniad y darparwr yn cydweddu orau â'r disgrifydd ar gyfer gwobr Aur.
Aseswyd ein haddysgu israddedig ar sail meini prawf sy'n berthnasol i feysydd ansawdd addysgu, amgylchedd dysgu a deilliannau a chynnydd dysgu myfyrwyr.
Bu Panel y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu'n pwyso ac yn mesur tystiolaeth o gyfres o fetrigau, gan ddefnyddio data cenedlaethol, yn ogystal â thystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y darparwr.
Roedd y metrigau'n ymwneud â chyfraddau parhad, boddhad myfyrwyr a chanlyniadau cyflogaeth (cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach). Cafodd metrigau pob darparwr eu meincnodi i gyfrif am
wahaniaeth yn nodweddion a chymwysterau ei fyfyrwyr, ynghyd â'r pynciau roeddent yn eu hastudio.
Dyfarnwyd y gwobrau gan banel o arbenigwyr annibynnol y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, yn eu plith, academyddion, myfyrwyr a chynrychiolwyr cyflogwyr.
Gwnaed y dyfarniad hwn ym mis Mehefin 2018 ac mae'n ddilys am hyd at dair blynedd.
Ceir rhagor o wybodaeth yma am y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu.
Lawrllwythwch Strategaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe
"Mae Abertawe yn cynnig profiad unigryw i fyfyrwyr; mynediad at ymchwil o’r radd flaenaf yn fyd-eang, ymgysylltu â chyflogwyr rhyngwladol mawr, a chael profiad o addysg gan addysgwyr gwych." Yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-Ganghellor