Mae Abertawe, dinas ‘Ddinas Hawliau Dynol’ gyntaf Cymru, mae’n ddinas ddathlu lewyrchus. Dros y blynyddoedd, mae wedi dod yn lle cynyddol amrywiol a chynhwysol i fyw a gweithio ynddo.

Mae gan Abertawe, a’r rhanbarthau cyfagos yn ne Cymru, synnwyr cryf o le, sy’n gwneud i bobl deimlo’n gartrefol, tra’n meddu ar gysylltiadau uniongyrchol â Llundain a Manceinion a Chaerdydd. Mae’n llwyddo i gynnig cychwyn da i blant trwy ei sefydliadau addysgol yn ogystal â chyfleoedd hamdden. Mae’n annog pobl i ddysgu’n llwyddiannus, gan roi cyfleoedd i bawb elwa o le da i fyw a gweithio.

Tafliad carreg i ffwrdd yn unig, ceir pentref y Mwmbwls, a oedd yn gyrchfan gwyliau poblogaidd yn oes Fictoria. Mae’r pentref, sydd
hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Porth Gŵyr, yn cynnig dewis gwych o atyniadau, gan gynnwys pier, siopau dillad traddodiadol, siopau
crefftau a chaffis hufen iâ.

I’r dwyrain, mae ‘Gwlad y Sgydau’ yn Afan a Chwm Nedd yn hafan i gerddwyr a beicwyr fel ei gilydd. Wrth deithio i’r gorllewin, byddwch
yn cyrraedd yr unig barc cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain: Sir Benfro. Mae Abertawe yn elwa hefyd o fod yn agos at Barc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd awr yn unig o daith o’r ddinas.