Croeso i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe, yr ŵyl fwyaf o'i bath yng Nghymru!
Dychwelodd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe y mis diwethaf (26 a 27 Hydref 2024) a chynhaliwyd y prif ddigwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin.
Roedd dros 6,000 o bobl yn bresennol yn yr ŵyl eleni, a ddechreuodd gyda digwyddiad gwych a gynhaliwyd cyn dechrau'r penwythnos yng nghanolfan Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys 'The Magical Mr West’ a'i berfformiad cyfareddol, Crafty Fools. Roedd pinacl y penwythnos yn cynnwys y cyflwynydd teledu adnabyddus, Andy Day, gyda'i sioe gyffrous, Andy’s Dino Rap.
Drwy gydol y penwythnos, gwnaeth pawb fwynhau 40 o stondinau arddangos a sioeau AM DDIM, a oedd i gyd yn arddangos ymchwil Prifysgol Abertawe sy'n torri tir newydd.
Archwiliodd ymwelwyr ynni hydrogen, cwrddon nhw â chŵn a chathod robotig, dysgon nhw am y broses o fymïo yn yr Hen Aifft a dysgon nhw sut i werthfawrogi cynrhon, hyd yn oed! Roedd uchafbwyntiau'r penwythnos yn cynnwys gweithdy rap gwyddoniaeth gyda'r cyflwynydd Jon Chase, sgyrsiau difyr â'r seren TikTok Big Manny, y fforiwr nodedig Ray Mears a'r cyflwynydd teledu bywyd gwyllt, Megan McCubbin.
Bob blwyddyn, mae'r ŵyl yn dangos y gall gwyddoniaeth fod yn ddifyr i bobl o bob oedran, p'un a ydych chi'n gwneud, yn archwilio neu'n darganfod.
Oriel lluniau llawn