Llun o Ddinas Abertawe wrth iddi nosi

DATGANIAD PREIFATRWYDD

Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut bydd yr Adran Digwyddiadau Corfforaethol ac Ymgysylltu yn Is-adran Marchnata yn Adran Marchnata, Recriwtio a  Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol ac yn ei defnyddio yn ystod y berthynas rhyngom a phan fydd y berthynas honno wedi dod i ben.

Bydd casglu data personol gennych chi’n  ein helpu i ddeall eich meysydd diddordeb yn well ac yn caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad â chi er mwyn rhannu gwybodaeth â chi am ein gweithgareddau, ein cyfleoedd a’n datblygiadau.

Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu’ch gwybodaeth ac i fod yn agored am yr wybodaeth rydym yn ei chadw. Fodd bynnag, os hoffech ddarllen mwy am ymrwymiad y Brifysgol i ddiogelu'ch gwybodaeth bersonol ac i fod yn agored yn gyffredinol, ewch i dudalennau gwe Diogelu Data'r Brifysgol.

Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol

Prifysgol Abertawe yw'r Rheolydd Data ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu hawliau cleientiaid a phartneriaid, yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd. Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu â'r unigolyn hwnnw yn dataprotection@abertawe.ac.uk

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi?

Rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol gan unigolion a sefydliadau sy'n dymuno derbyn gohebiaeth farchnata gan Brifysgol Abertawe:

 Enw'r unigolyn

Cyfeiriad e-bost

Cod Post (ar adegau)

Math o ddigwyddiad o ddiddordeb

Dewis iaith

Cysylltiad â'r Brifysgol

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i'ch hysbysu am ein gwasanaethau a'n digwyddiadau ac am unrhyw ddatblygiadau a allai fod yn berthnasol i chi neu'ch sefydliad yn ein barn ni.

Hefyd, gellir rhannu'ch gwybodaeth ag adrannau eraill yn y Brifysgol sy'n darparu gwasanaethau tebyg a allai fod o ddiddordeb i chi neu'ch sefydliad.

Marchnata

Lle gallwn ddefnyddio'ch data personol i'ch hysbysu am ein gwasanaethau eraill, am ddigwyddiadau neu ddatblygiadau a allai fod yn berthnasol i chi neu i'ch sefydliad, ni fyddwn yn cysylltu â chi drwy gyfrwng electronig (e-bost neu SMS) oni bai eich bod wedi cydsynio i dderbyn cyfathrebiadau marchnata electronig o'r fath gennym ni. Lle rydych chi wedi darparu cydsyniad o'r fath, bydd gennych hawl bob amser i dynnu'ch cydsyniad yn ôl - ceir manylion isod am sut gallwch dynnu'ch cydsyniad yn ôl.

Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu?

Mae deddfwriaeth diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu'ch data fel un sy'n amodol ar gydsyniad neu at ddibenion buddiannau dilys* a ddilynir gan y Brifysgol neu gan drydydd parti, ac eithrio lle mae buddiannau o'r fath yn ddarostyngedig i fuddiannau neu hawliau sylfaenol a rhyddidau gwrthrych y data, sy'n golygu ei bod yn ofynnol diogelu data personol.

*(Mae datganiad 47 y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn cydnabod y gellir ystyried prosesu data at ddibenion marchnata uniongyrchol yn weithgarwch a wneir er budd dilys. Ni fyddwn yn ymgymryd â'r fath brosesu oni bai fod asesiad o fuddiannau dilys wedi'i gynnal er mwyn sicrhau bod eich data personol yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac mewn ffyrdd y byddech yn eu disgwyl yn rhesymol ac sy'n cael yr effaith leiaf ar eich preifatrwydd, neu os ceir rheswm cymhellol dros y prosesu).

Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?

Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych chi i ni yn cael ei chadw gan Brifysgol Abertawe.

Caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio ar ein systemau electronig a'n cronfeydd data diogel y gellir eu cyrchu gan aelodau staff yn y Brifysgol sydd â'r caniatâd priodol.  Mae'r Brifysgol yn diogelu gwybodaeth bersonol ac ni chaiff ei datgelu i sefydliadau trydydd parti heb gydsyniad pendant.

Bydd gwybodaeth ar gael i staff y mae angen iddynt gael mynediad iddi, mewn amgylchiadau cyfyngedig, ac am y rhesymau a nodir uchod. Mae'r rhain yn cynnwys:

Sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio?

Mae Deddfwriaeth Diogelu Data yn gosod dyletswydd arnom i gadw'ch gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu  y caiff eich cyfrinachedd ei barchu, ac y cymerir yr holl gamau priodol i atal mynediad a datgeliad anawdurdodedig.

Ni chaiff neb fynediad i'ch gwybodaeth, ac eithrio'r aelodau staff hynny y mae angen iddynt gyrchu rhannau perthnasol o'ch gwybodaeth, neu'ch holl wybodaeth. Bydd gwybodaeth electronig amdanoch yn cael ei diogelu trwy gyfrineiriau a chyfyngiadau diogelwch eraill a'i chadw ar rwydweithiau diogel y Brifysgol. Cedwir ffeiliau papur mewn ardaloedd diogel lle rheolir mynediad.

Bydd y Brifysgol yn defnyddio systemau rheoli cynnwys trydydd partïon sy'n defnyddio gwasanaethau cwmwl er mwyn prosesu data personol at ddiben anfon deunyddiau marchnata uniongyrchol electronig, yn unol â chytundebau prosesu data'r UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Ar adegau, gall eich data personol gael ei storio ar weinyddwyr y tu allan i'r UE. Lle bo data'n cael ei brosesu y tu allan i'r UE, bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau bod unrhyw drosglwyddo'n gyfreithlon a gellir ei gyfiawnhau yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Am ba mor hir y caiff eich gwybodaeth ei chadw?

Cedwir eich data personol nes i chi benderfynu datdanysgrifio o Adran Digwyddiadau Corfforaethol ac Ymgysylltu, neu le rydym yn nodi, yn ystod arferion glanhau data blynyddol, nad ydych yn ymwneud â ni bellach; e.e. os yw dadansoddi negeseuon e-bost yn dangos nad ydych yn agor y cylchlythyr electronig.

Eich Cyfrifoldebau

Rhowch wybod i'r tîm Marchnata drwy e-bostio Corporate Events am unrhyw newidiadau yn eich enw, eich cyfeiriad neu'ch manylion cyswllt cyn gynted â phosib fel y gallwn ddiwygio ein cofnodion.

Tynnu cydsyniad i dderbyn deunyddiau marchnata electronig yn ôl

Os byddwch yn derbyn unrhyw negeseuon dieisiau, gallwch ddewis peidio â derbyn ein negeseuon e-bost unrhyw adeg.

Os ydych wedi cydsynio i Brifysgol Abertawe brosesu unrhyw rannau o'ch data, mae gennych hawl i dynnu'r cydsyniad hwnnw yn ôl a gofyn i'ch data gael ei ddileu pan na fyddwch am dderbyn gwybodaeth farchnata mwyach.

Yn unol â deddfwriaeth, byddwn bob amser yn rhoi cyfle i chi ddewis peidio â derbyn deunyddiau marchnata perthnasol.

Rhowch wybod i'r tîm Marchnata drwy e-bostio Corporate Events os hoffech i ni ddileu'ch enw o'n cronfa ddata cyfathrebu marchnata.

 

Pa hawliau sydd gennych?

Mae gennych hawl i gael mynediad i'ch gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu i brosesu'ch gwybodaeth bersonol, i unioni, dileu a throsglwyddo'ch gwybodaeth bersonol ac i gyfyngu ar fynediad iddi. Sylwer, fodd bynnag, mae hyn yn debygol o effeithio ar ein gallu i ddarparu cymorth i chi yn y ffordd fwyaf effeithiol, os o gwbl.

Ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe am ragor o wybodaeth am eich hawliau.

Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau'n ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol:-

Bev Buckley

Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data),

Swyddfa'r Is-ganghellor,

Prifysgol Abertawe,

Parc Singleton,

Abertawe

SA2 8PP

dataprotection@abertawe.ac.uk 

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd mae'ch gwybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu, i ddechrau, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn anfodlon wedi hynny, mae gennych hawl i gysylltu'n uniongyrchol â'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael penderfyniad. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,

Wycliffe House,

Water Lane,

Wilmslow,

Swydd Gaer

SK9 5AF

www.ico.org.uk

Newidiadau yn ein Polisi Preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau yn ein polisi preifatrwydd yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon a, lle bo hynny'n briodol, cewch eich hysbysu drwy e-bost.

Swyddfa'r Is-ganghellor.