MAE GENNYM FWY NA 50 O GLYBIAU CHWARAEON I CHI DDEWIS OHONYNT

Gyda mwy na 50 o glybiau chwaraeon i chi ddewis ohonynt a mwy na 5000 o aelodau sy'n cymryd rhan ynddynt, mae Chwaraeon Abertawe wir yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

P'un a ydych am roi cynnig ar rygbi neu aikido, dodgeball, hoci neu tae kwon do, byddwch chi'n siŵr o ganfod eich tîm delfrydol yn Abertawe. P'un a ydych ar lefel dechreuwr, canolraddol neu elît, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd clybiau chwaraeon i bawb.

Pan fyddwch yn rhan o glwb, fyddwch chi byth yn brin o rywbeth i'w wneud na rhywun i ddod gyda chi. Gyda sesiynau hyfforddi rheolaidd, cynghreiriau lleol, cystadlaethau cenedlaethol ac, wrth gwrs, ambell noson gymdeithasol, mae digon i'w wneud gyda Chwaraeon Abertawe.

Ac er ein bod yn hoff o gael hwyl, rydyn ni hefyd yn uchelgeisiol. Rydyn ni'n anelu at fod ar frig tabl goreuon BUCS, felly dewch i ymuno â'n tîm a bod yn rhan o'r daith.

DIDDORDEB MEWN YMUNO?

Mae popeth y mae angen i chi ei wybod ynghylch ymuno ag un o'n llu o glybiau yn Chwaraeon Abertawe, gan gynnwys gwybodaeth am ffi aelodaeth a'r rhestr lawn o'r hyn sydd ar gael, i'w weld ar Wefan Undeb y Myfyrwyr.

Cliciwch ar y botwm ar y chwith nawr.

Cwestiynau Cyffredin am Glybiau Chwaraeon