Dwy fenyw yn siarad

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, a cheir cydbwysedd o addysgu rhagorol ac ymchwil, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.

Oherwydd ein hymrwymiad i ymchwil sy'n cynnig manteision ymarferol i'r byd, rydym wedi cyflawni ein huchelgais o fod yn un o'r 30 o Brifysgolion Gorau am Ymchwil, gan saethu i fyny tabl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 o brifysgolion y DU, i'r 26ain safle o’r 52ain safle yn 2008.

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe ar sail egwyddorion arloesi a chydweithio. Drwy weithio gyda ni, gall eich sefydliad elwa o arbenigedd ymchwil a datblygu sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, graddedigion a myfyrwyr dawnus, hyfforddiant a datblygiad sgiliau proffesiynol, cyfleusterau a chyfarpar o'r radd flaenaf a nifer o gyfleoedd masnachol eraill.