Gyda dyfodol ein planed yn gynyddol ansicr a sôn cyson yn y newyddion am faterion megis microblastigion, llygredd aer ac ynni adnewyddadwy, mae ar nifer o’n myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt i hynny. Un ffordd o wneud hyn yw cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Mae llawer o brosiectau a gynhelir gan staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant y nodau. Dysgwch fwy am sut rydym yn helpu trwy glicio ar y dolenni isod bob nod.
Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022
Asesodd y tabl rhyngwladol mawreddog fwy na 1,400 o brifysgolion yn rhyngwladol ar draws ehangder gweithgarwch prifysgolion o stiwardiaeth ymchwil, addysgu, metrigau cynaliadwyedd, polisïau, allgymorth a gwaith partneriaeth a’i nod yw dal effaith prifysgolion ar gymdeithas. 2022 yw’r flwyddyn gyntaf i Abertawe gael ei hasesu ac mae’r Brifysgol wedi gwneud yn arbennig o dda, gan ei gosod yn y 200 uchaf yn gyffredinol (101-200fed) ac o fewn yr 20 uchaf ar gyfer tri Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG) gan ddangos ein hymrwymiad i ddyfodol cynaliadwy.
Cawsom ein hasesu yn erbyn 11 o'r 17 nod datblygu cynaliadwy. Gwnaethom gyflawni'r canlyniadau canlynol.
- NDC 3: Iechyd a llesiant da: 66ed
- NDC 6: Dŵr glân a glanweithdra: 34ydd
- NDC 7: Ynni Fforddiadwy a Glân 63ydd
- NDC 8: Gwaith teilwng a thwf economaidd: 101-200
- NDC 9: Diwydiant, arloesi a seilwaith: 101-200
- NDC 11: Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy: 18fed
- NDC 12: Treuliant a chynhyrchu cyfrifol: 14eg
- NDC 13: Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd: 41fed
- NDC 15: Bywyd ar y tir: 37fed
- NDC 16: Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn: 14eg
- NDC 17: Gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r nodau: 401-600
Mae creu cymdeithas iachach a mwy cynaliadwy, yn lleol ac yn fyd-eang, wrth wraidd pwrpas Prifysgol Abertawe ac mae’r canlyniadau’n adlewyrchu’r gwaith caled ar draws holl feysydd y Brifysgol.