SUT GALL EIN HARBENIGWYR EICH HELPU?

Mae'r problemau y mae ein partneriaid yn eu hwynebu yn niferus ac rydym yn rhagori wrth eu datrys, gan eich helpu i ganolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i'ch problemau. Mae ein hyblygrwydd i'ch helpu'n cynnwys:

  • Mynediad at dimau amlddisgyblaethol sy'n arbenigol iawn yn eu meysydd
  • Cyngor ar brofi cynhyrchion a gwneud dadansoddiadau i’w cyflwyno i'r farchnad
  • Dadansoddi fframweithiau prosesau a rheoliadau penodol
  • Dilysu cynhyrchion er mwyn eu helpu i gyrraedd y farchnad a chael eu derbyn ganddi'n gynt
  • Meithrin partneriaethau ariannu â chi ar gyfer rhagor o ymchwil neu brosiectau datblygu
  • Cyfleoedd i drosglwyddo gwybodaeth sy'n gwreiddio arbenigedd yn eich sefydliad
  • Arbenigedd mewn treialon clinigol, gan eich helpu i lywio'r broses.
cydweithwyr yn siarad

CYSYLLTWCH Â'N TÎM PARTNERIAETHAU STRATEGOL

Mae ein Tîm Partneriaethau Strategol hefyd ar gael i'ch cefnogi gyda'r canlynol:

  • Ymgysylltu rhwng ymchwilwyr academaidd a sefydliadau allanol, er mwyn creu cyfleoedd ymchwil ac arloesi cydweithredol ffrwythlon
  • Trosglwyddo gwybodaeth rhwng Prifysgol Abertawe a byd diwydiant, neu sefydliadau allanol eraill, drwy raglenni megis partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth a SMART
  • Meithrin cydweithrediadau a phartneriaethau tymor hir sy'n atgyfnerthu ymchwil yn y Brifysgol.

Er mwyn cysylltu â'r Tîm Partneriaethau Strategol, a wnewch chi e-bostio business.enquiries@abertawe.ac.uk