Os wyt ti’n cyflwyno cais drwy UCAS ar gyfer mis Medi 2023, byddi di’n cael dy gynnwys yn awtomatig yn y broses Glirio os na fyddi di’n cael y graddau ar gyfer dy ddewisiadau cadarn ac yswiriant, neu os byddi di’n cyflwyno dy gais ar ôl 30 Mehefin.
Os ddei di'n gymwys i ddefnyddio'r broses Clirio bydd botwm 'Add Clearing Choice' ar gael ar dy sgrin Track Choices. Neu, gwiria'n uniongyrchol â phrifysgolion dy ddewis cadarn a dewis yswiriant cyn gynted â phosib.
I nifer o fyfyrwyr, bydd y broses clirio ar gael iddynt ar ôl i'w canlyniadau gael eu derbyn a daw i'r amlwg nad ydynt wedi diwallu'r meini prawf mynediad. Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yn 2023 yw dydd Iau 17 Awst.
Os nad oes gennych chi gais UCAS byw, peidiwch â phoeni, byddwch chi’n dal i allu cyflwyno cais yn uniongyrchol i Brifysgol Abertawe. Ffoniwch ni ar 0808 175 3071 o ddechrau mis Gorffennaf a bydd ein tîm yn eich tywys drwy’r broses.
Mae cyflwyno ceisiadau UCAS ar gyfer Medi 2023 ar agor nawr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma ar sut i wneud cais drwy UCAS.