Ym Mhrifysgol Abertawe, ein myfyrwyr sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn falch o'n dyfarniadau ond hyd yn oed yn fwy balch o'r hyn mae ein myfyrwyr yn ei ddweud. Yma cewch ragor o wybodaeth am y rheswm y mae myfyrwyr yn dwlu ar astudio yn Abertawe, wrth iddyn nhw rannu eu profiadau personol o fywyd yn y Brifysgol.

Peidiwch â derbyn ein gair ni 

Darllenwch fyfyrdodau gonest a phersonol gan fyfyrwyr prifysgol abertawe ar y llwyfannau adolygiadau hyn.

Mae ein sianel Flogiau Myfyrwyr ar YouTube yn rhoi cyfle i fyfyrwyr presennol rannu eu profiadau am y brifysgol ar-lein, gan roi cipolwg go iawn ar yr hyn y gall Prifysgol Abertawe ei gynnig. Edrychwch ar rai o'n fideos diweddar i ganfod yr hyn y mae'r flogwyr wedi bod yn ei wneud.

Dyma Elen yn sôn am effaith y pandemig ar iechyd meddwl myfyrwyr:

Dyma Alpha yn siarad am yr ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg:

Dyma Sophie yn sôn am y manteision o fyw mewn llety cyfrwng Cymraeg: