Cysylltwch â myfyrwyr presennol a chael eu mewnwelediad i fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Cofrestrwch ar gyfer ‘UniBuddy Chat’ ac mae ein llysgenhadon myfyrwyr cyfeillgar wrth law i helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Os ydych chi eisoes wedi penderfynu mai Abertawe yw'r dewis iawn i chi a'ch bod wedi derbyn cynnig i astudio gyda ni, gallwch hefyd ddechrau creu cysylltiadau â'ch cyfoedion cyn i chi gofrestru. Mae ‘Unibuddy Community’ yn ofod ar-lein pwrpasol i chi gwrdd â phobl o'ch gwrs neu faes pwnc, dechrau sgwrsio â chyd-letywyr posibl, a gobeithio gwneud ffrindiau cyn i chi gyrraedd.

Sgwrsio â'n Myfyrwyr

Eisiau gwybod sut beth yw astudio ym Mhrifysgol Abertawe? Cofrestrwch ar gyfer ein platfform Unibuddy Chat i gysylltu â'n llysgenhadon myfyrwyr cyfeillgar - maen nhw yma i helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am fywyd myfyriwr yn Abertawe.

Os oes gennych gwestiynau am y broses dderbyn, gofynion mynediad, neu'ch cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, cysylltwch â'n Tîm Ymholiadau, a fydd yn gallu eich cynorthwyo.

Grwp o fyfyrwyr yn eistedd ar y traeth

Gwnewch Ffrindiau Cyn Cyrraedd

Mae Cymuned Unibuddy yn fan diogel, swyddogol i chi gysylltu â myfyrwyr newydd eraill cyn cyrraedd Abertawe. Gall deiliaid cynigion ar gyfer mynediad Ionawr 2024 gofrestru isod

Ymunwch â'n Cymuned Israddedig a Ôl-raddedig - Ionawr 2025

Blogiau Myfyrwyr

Edrychwch ar ein blogiau myfyrwyr Unibuddy i gael mewnwelediadau a phrofiadau bywyd go iawn ar draws amrywiaeth o bynciau defnyddiol. Wedi’u creu gan fyfyrwyr presennol o’u safbwyntiau eu hunain, maen nhw’n llawn o awgrymiadau a chyngor gwych ar gyfer gwneud y gorau o’ch profiad prifysgol.

Cwestiynau Cyffredin