Mae Discovery SVS yn elusen a arweinir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe sy’n rheoli ystod eang o brosiectau gwirfoddoli. 

Mae gwirfoddoli gyda Discovery yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, i ddysgu sgiliau newydd, ac i wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol. Mae gwirfoddoli yn edrych yn wych ar eich CV a gall wella eich lles ond, yn fwyaf oll, gall fod yn hwyl! A gall unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff Prifysgol Abertawe wirfoddoli gyda ni. 

Nod ein prosiectau yw cyfoethogi bywydau pobl ddifreintiedig ar draws Abertawe a gweithio gyda gwahanol aelodau o’r gymuned. Mae gennym ni ystod eang o brosiectau a chyfleoedd gwirfoddoli unigol y gallwch chi wirfoddoli ar eu cyfer, yn bersonol ac o bell, a rhai y gallwch chi gymryd rhan ynddynt ble bynnag rydych chi yn y byd. Gallwch chi wirfoddoli gyda phlant, pobl ifainc, oedolion hŷn, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, oedolion anabl, ar brosiectau iechyd meddwl neu ar brosiectau ymarferol.  

Sylwer bod pob un o’n prosiectau yn destun rheoliadau Covid a gallent newid wrth i’r rheoliadau newid. 

Nod Discovery yw:

  • Cyfoethogi bywydau pobl yn Abertawe er mwyn cyflawni eu potensial fel unigolion wedi'u grymuso ac fel aelodau o grwpiau a chymunedau.
  • Cynnig profiadau a chyfleoedd newydd trwy ystod eang o weithgareddau dan arweiniad myfyrwyr yn y gymuned gan arwain at fwy o gyd-ddealltwriaeth a chydraddoldeb.
  • Cefnogi myfyrwyr yn weithredol i fod yn ymwybodol o'u datblygiad personol a'r effaith arnynt eu hunain a bywydau pobl eraill trwy eu rhan mewn gweithgareddau cymunedol

Mae angen i'n holl wirfoddolwyr fynychu hyfforddiant gorfodol 'Dechreuwch Yma' a chwblhau gwiriad DBS gyda ni cyn gwirfoddoli. Gall gwirfoddolwyr hefyd fynychi hyfforddiant ychwanegol.

Dewch yn wirfoddolwr yma: bit.ly/Discoveryswansea