Dathlu'r Dyniaethau

Gŵyl Bod yn Ddynol 2026

Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gynnal Gŵyl Bod yn Ddynol 2026 unwaith eto.

Fel gŵyl genedlaethol y Dyniaethau yn y DU, mae Bod yn Ddynol yn dod ag ymchwil a chymunedau ynghyd drwy raglen o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim sy'n ysbrydoli chwilfrydedd, sgwrs a chysylltiad.

Mae thema'r ŵyl eleni, sef Croesffordd, yn archwilio'r adegau, y lleoedd a'r syniadau sy'n llywio ar ein bywydau. Gall croesffordd fod yn bwynt dewis, darganfod neu newid lle mae safbwyntiau gwahanol yn cwrdd, a lle gallai posibiliadau newydd ddod i'r amlwg.

Trwy raglen amrywiol o weithgareddau, bydd yr ŵyl yn arddangos sut mae ymchwil y dyniaethau’n ein helpu ni i ddeall pobl, diwylliannau, hanesion a chymdeithasau.

Trwy ddod ag ymchwilwyr, cymunedau, llunwyr polisi, elusennau, addysgwyr, teuluoedd a'r cyhoedd yn ehangach ynghyd, mae Bod yn Ddynol yn creu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, cyfnewid syniadau ac archwilio rhai o'r cwestiynau sydd bwysicaf yn ein bywydau heddiw.

Ymunwch â ni i ddarganfod sut gall y dyniaethau ein helpu ni i wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas - a dychmygu'r dyfodol rydym eisiau ei greu.

5 - 14 Tachwedd 2026

What's Your Ancient History: Gweithdy Thema’r Clasuron

Theatr Volcano, 14 Tachwedd

Darganfyddwch sut mae straeon o'r byd hynafol yn cael eu hail-ddychmygu ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw, gan weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a chrewyr cynnwys i ddatblygu eich cynnwys ysgogol eich hun ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol wedi'i ysbrydoli gan Roeg yr henfyd, Cyprus, Macedonia a'r tu hwnt.

Cyfrestrwch yma

Caerdydd

14/11/2026

02:00 - 16:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Pixabay

Arddangosfa Wyth Llais yn y Tywyllwch

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE | 6-8 Tachwedd

Gosodiad sain a ffotograffiaeth ymdrochol sy'n rhannu straeon pobl ddall neu rannol ddall a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu bywydau.

Dim ond galw heibio yw'r digwyddiad hwn.

Dysgwch fwy

Caerdydd

06/11/2025

12:00 - 20:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Menyw yn edrych i'r pellter

Dyneiddio Gofal Iechyd

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Gweithdy ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a sefydliadau i wella cefnogaeth iechyd meddwl a mynediad at wasanaethau i'r rhai sy'n colli eu golwg.

Cyfrestrwch yma

Caerdydd

07/11/2025

10:30 - 13:30 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Menyw yn edrych i'r pellter

Gwnïo Straeon am Famolaeth

Third Space, Elysium, Stryd Fawr Abertawe

Archwiliwch famolaeth, bwydo babanod, gofal a mwy yn yr arddangosfa gwiltio ryngweithiol hon.

Cyfrestrwch yma

Abertawe

07/11/2025

10:00 - 15:30 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Pobl yn gwneud cwilt