RYDYM YMYSG Y PYMTHEG UCHAF YNG NGHYNGHRAIR PRIFYSGOLION PEOPLE & PLANET, AC YN CHWARAE RÔL BWYSIG MEWN DATBLYGU CYNALIADWY YN Y RHANBARTH, YN Y DU AC YN FYD-EANG.
Mae ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd (2021-2025) sy’n cydweddu â Gweledigaeth Strategol a Phwrpas y Brifysgol - yn nodi sut rydym yn gweithredu ein Polisi Cynaliadwyedd , ac yn ein hymrwymo i gamau gweithredu ar draws pedair thema allweddol:Yr Argyfwng Hinsawdd, Ein Hamgylchedd Naturiol, Ein Hamgylchedd Gwaith ac Ein Teithio.
Rydym hefyd yn cyfrannu at nodau datblygu cynaliadwy allweddol eraill:Lles ac Iechyd Dynol, Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig gweithio ar y cyd â'n cymuned ymchwil i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb.
Cliciwch ar y lluniau isod i ddysgu am ein stori cynaliadwyedd a sut gallwch chi ein helpu i'w chreu:
O lanhau traethau a garddio cynaliadwy, i grefftio blychau adar a gwneud ffrindiau, mae digon i chi ei wneud a chymryd rhan ynddo ym Mhrifysgol Abertawe.
Porwch ein digwyddiadau drosodd ar Eventbrite.