Os ydych yn gwmni rhyngwladol neu’n fenter newydd, os hoffech ddod i ffair yrfaoedd brysur neu gynnig digwyddiad pwrpasol, gallwn eich helpu i lunio doniau'r dyfodol ar gyfer eich diwydiant.
Dewch i'n ffair yrfaoedd
Dewch i'n Ffair Yrfaoedd flynyddol yn yr hydref i gwrdd â'ch darpar aelodau staff graddedig nesaf. Mae ein Ffair Yrfaoedd, a gynhelir dros ddau ddiwrnod ac ar ddau gampws, yn denu mwy na 2000 o fyfyrwyr o bob un o'n meysydd pwnc.
Bydd Ffair Yrfaoedd nesaf yn cael ei chynnal ar:
Campws Singleton: Dydd Mawrth 16 Hydref, 10:30 - 15:00
Campws y Bae: Dydd Mercher 17 Hydref, 10:30 - 15:00
E-bostiwch ein Cydlynydd Digwyddiadau Cyflogwyr, Linda, am rhagor o wybodaeth. Neu llenwch ein ffurflen archebu isod i gadw eich lle heddiw!
Gadw eich lle heddiw!Cyflogwch Ein Myfyrwyr Am Waith Rhan-Amser
Yn chwilio am rywun i lenwi rôl ran-amser? Gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i'r person delfrydol o'n cronfa o fyfyrwyr dawnus!
Achuba ar y blaen cyn filoedd o fyfyrwyr a fydd yn dod i Abertawe yn ystod ein hwythnos groeso. Cynhelir y Ffair Swyddi Rhan-amser nesaf:
Dydd Mawrth 1 Hydref 2024
Campws Singleton: 10:00 - 12:00 canol dydd
Campws y Bae: 13:00 - 15:00
E-bostiwch ein Cydlynydd Digwyddiadau Cyflogwyr, Linda, am rhagor o wybodaeth. Neu llenwch ein ffurflen archebu isod i gadw eich lle heddiw!
Gelli di hefyd hysbysebu swyddi ar ein hysbysfwrdd digidol. Cysyllta i gael mwy o wybodaeth!
Gadw eich lle heddiw!Cyflwynwch i'n myfyrwyr
Gallwn drefnu digwyddiad sy'n rhoi sylw ar y cyflogwr, wedi'i deilwra i'ch anghenion, a fydd yn datblygu dealltwriaeth myfyriwr o'ch sector ac yn hyrwyddo'ch busnes.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu i drafod sut y gallwch ymgysylltu â'n myfyrwyr a'n graddedigion dawnus, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â'n tîm cyflogadwye