Byd Copr Cymru

Rydym yn diogelu ein treftadaeth

Hen lun o Weithfeydd Copr Hafod

Y Her

Roedd Cwm Tawe Isaf yn ganolbwynt masnach copr y byd am dros 200 o flynyddoedd. Pan fu dirywiad yn y diwydiant yn yr ugeinfed ganrif, gadawyd llawer o lygredd yn y cwm a chafodd llawer o'r gweithfeydd copr eu dymchwel.

Ychydig o adeiladau a oedd yn eiddo i hen Weithfeydd Copr yr Hafod sydd wedi goroesi fel tystiolaeth o arwyddocâd Abertawe yn y stori hon o ddiwydiant byd-eang.

Y Dull

Am dros ddegawd, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn datblygu rhaglen ymchwil, ymgysylltu â'r gymuned ac adfywio'n seiliedig ar dreftadaeth am ddiwydiant copr arwyddocaol byd-eang Abertawe.

Gyda chyllid a chymorth gan Cadw, Cyngor Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, mae ymchwilwyr yr UKRI wedi gallu archwilio sut gall y dreftadaeth hon gyfrannu at ddatblygiad y ddinas yn y dyfodol ac ymgysylltu â chymunedau lleol.

Yr Effaith

  • Sefydlwyd partneriaeth ffurfiol rhwng Prifysgol Abertawe â Chyngor Abertawe yn 2012 er mwyn dechrau ar adfywio'n seiliedig ar dreftadaeth hen safle Gwaith Copr yr Hafod Morfa.
  • Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan staff Prifysgol Abertawe wedi sefydlu arwyddocâd hanesyddol byd-eang diwydiant copr De Cymru.
  • Mae gwaith ymchwil bellach yn ategu rhaglen uchelgeisiol o adfer ac adfywio yng Nghwm Tawe Isaf, a fydd, yn ei dro, yn arwain at ymgysylltiad gwell â stori copr ymhlith y cyhoedd ehangach gan wneud y brand 'copr' yn thema ddeniadol i fusnesau bach a chanolig.
  • Mae prosiect adfywio Cu@Swansea wedi hawlio llawer o safle Gweithfeydd Copr yr Hafod Morfa a chreu cyrchfan i bobl ymweld a deall y safle a'i hanes.
  • Mae tîm y prosiect yn sicrhau bod ysgolion lleol a grwpiau cymunedol wrth wraidd y gwaith ymchwil a wneir ar safle'r Hafod Morfa.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod cynaliadwy y CU - Iechyd
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
REF 14