Diwylliant, Cyfathrebu a Threftadaeth

Mae ein hymchwil yn arwain at newidiadau mewn polisi ac yn cefnogi pobl o bob oed ar draws y byd.

Rydym yn helpu pobl ar draws pob oedran; o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron a'r ystyriaeth i famau newydd, dadansoddi'r iaith a ddefnyddir gan bobl sy'n ceisio magu perthynas amhriodol ar-lein, effeithiau amser sgrin ar iechyd meddwl pobl ifanc.

Mae ein hymchwil yn lliniaru effeithiau tlodi ar flynyddoedd plentyndod cynnar; o ddadleoli ffoaduriaid; masnachu mewn cyffuriau ac erledigaeth ar hawliau dynol lleiafrifoedd.

Mae ein hymchwil yn treiddio i hanes a diwylliant Cymru ond hefyd yn cydnabod bod ymchwilio i ddiwylliant rhyngwladol yn hanfodol i greu amgylchedd celfyddydol a dyniaethau cyfoethog ac amlhaenog. Dyna pam mae ein grwpiau ymchwil yn canolbwyntio ar wledydd yn cynnwys yr Almaen, Portiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America.

  • Mae'r Brifysgol yn awyddus i amlygu treftadaeth leol y ddinas a'i harchwilio drwy ymchwil. Drwy brosiect Byd Copr Cymru, mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu rhaglen ymchwil, ymgysylltu â'r gymuned ac adfywio ar sail treftadaeth i ddathlu'r diwydiant pwysig hwn, i ddeall dylanwad y diwdiant ar y ddinas ac i archwilio sut y gall y dreftadaeth hon gyfrannu at ddatblygiad y ddinas yn y dyfodol.
  • Yn Abertawe, rydym yn cydnabod gwerth defnyddio technoleg i fwrw goleuni ar agweddau ar y gorffennol. Mae ein Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol yn olrhain datblygiad cyfrifiadura a'i dylanwad, ac yn ymchwilio i dechnegau ar gyfer codi data o hen fapiau i mewn i systemau GIS.
  • Ym meysydd y cyfryngau a chyfathrebu, mae ein hymchwilwyr yn edrych ar oblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd rhith-wirionedd; ac ar agweddau ar gyfryngau digidol byd-eang a lleol gan gynnwys rhaniadau digidol, newyddiaduraeth data, a llythrennedd ac addysgeg cyfryngau digidol.

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio iaith, hanes, treftadaeth a'r byd sy'n newid er mwyn creu amgylchedd mwy cyson a diogel i bobl o bob oed ar draws y byd. Credwn y dylai cymunedau yn lleol ac yn fyd-eang ddathlu amrywiaeth, gofalu am eu hardaloedd lleol, a meddu ar hawliau cyfartal a rhyddid mynegiant

Sut mae ein hymchwilwyr yn cysylltu pobl â'i gilydd

Dylan Thomas: gwella gwybodaeth, ysgogi allgymorth a llywio strategaeth

Archwilio lle cymru yn y byd trwy lenyddiaeth Dylan Thomas

Dylan Thomas: gwella gwybodaeth, ysgogi allgymorth a llywio strategaeth

Ein partneriaid

Cysylltwch â ni am Ymchwil

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau i gynnal ymchwil ar y cyd, i wireddu syniadau, i wella cynnyrch, ac i helpu i newid y byd.

01792 606060

Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn ni weithio gyda chi.

Y Cyfadrannau

Dysgwch fwy am y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ym mhob un o'r cyfadrannau sy'n ymwneud â Diwylliant, Cyfathrebu a Threftadaeth

Dysgwch fwy