Effaith tymor hir astudio dramor

Rydym yn archwilio effeithiau tymor hir astudio dramor ar unigolion a chymdeitha

Rydym yn archwilio effeithiau tymor hir astudio dramor ar unigolion a chymdeithas

Yr Her

Pam mae myfyrwyr yn dewis astudio dramor? Beth sy'n digwydd ar ôl astudio dramor? Beth yw effaith addysg dramor ar y myfyriwr, ei deulu, ei wlad frodorol a'r wlad sy'n ei groesawu?

Mae ymchwil Dr Mengwei Tu yn ceisio ateb y tri chwestiwn hyn. Cafodd ei hysbrydoli gan ei phrofiad ei hun o fod yn fyfyriwr rhyngwladol yn y DU yn 2012. Yn ystod y degawd diwethaf, mae nifer y myfyrwyr yn y DU sy'n dod o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd wedi dyblu o 300,000 i 600,000. Mae prifysgolion yn y DU yn dibynnu'n fwyfwy ar yr incwm sy'n deillio o recriwtio myfyrwyr tramor. Mae chwyddo cymwysterau ledled y byd yn codi cwestiynau am ganlyniadau economaidd a moesegol y system addysg neo-ryddfrydol, ond mae'r cymhlethdod dynol y tu ôl i benderfyniadau ar addysg ac ymfudo'n bwrw cysgod dros yr atebion i'r cwestiynau hyn.

Mae'r dirwedd addysg fyd-eang yn cael ei chymhlethu ymhellach gan dwf Tsieina, a hithau'n wlad sydd wedi anfon myfyrwyr i wledydd eraill ers amser hir ac sy'n derbyn mwyfwy o fyfyrwyr. Mae dylanwad economaidd a gwleidyddol Tsieina wedi newid deinameg symudedd myfyrwyr rhyngwladol. Mae'r ymchwil hon hefyd yn archwilio tuedd gynyddol myfyrwyr i symud o wledydd llai datblygedig yn Asia i astudio yn Tsieina.

Y Dull

Cynhaliodd Dr Mengwei Tu gyfweliadau â myfyrwyr o Tsieina a ddaeth i'r DU i astudio rhwng 2000 a 2010 ac sydd wedi aros i fod yn weithwyr proffesiynol yn y DU. Canfu'r ymchwil fod y myfyrwyr hyn yn perthyn i'r genhedlaeth a anwyd dan bolisi un plentyn Tsieina. Gan ystyried rôl bwysig rhieni yn eu taith ymfudo, cynhaliwyd cyfweliadau â'u rhieni yn Tsieina hefyd, er mwyn clywed eu straeon. Ariannwyd yr ymchwil hon gan Ysgoloriaeth Prifysgol Caint ar gyfer Cyn-fyfyrwyr o Hong Kong.

Canolbwyntiodd dulliau casglu data ar y cwestiwn canolog: Beth sy'n digwydd ar ôl y cyfnod astudio dramor? Effaith addysg dramor ar yr unigolyn, ei deulu, ei wlad frodorol a'r wlad sy'n ei groesawu. Gan gadw'r pwyslais hwn mewn cof, datblygodd yr ymchwil i fod yn astudiaeth hydredol. Hefyd, cynhaliodd Mengwei gyfweliadau dilynol â rhai o'r mewnfudwyr a'u rhieni rhwng 2014 a 2021. Mae amser yn datgelu straeon ymfudo pwerus sy'n herio ein credoau am ystyr dewis ‘da’ tybiedig o ran addysg.

I archwilio rhywbeth cyfatebol i brofiad symudedd myfyrwyr rhyngwladol yn Tsieina, defnyddiodd Mengwei ymchwil hydredol a chynhaliodd gyfweliadau â myfyrwyr o Asia cyn iddynt raddio ac ar ôl hynny. Cynhaliwyd cyfweliadau ag arbenigwyr a dadansoddwyd y cyfryngau a pholisi hefyd i gasglu data o sianeli gwahanol. Cynhaliwyd y prosiect ymchwil o 2019 tan 2023, gan gynnwys cyfnod pandemig Covid-19. Mae'r cynllun ymchwil hydredol yn datgelu'r ansicrwydd a'r risg sy'n cael eu trosglwyddo (yn annheg) i fyfyrwyr rhyngwladol a'u teuluoedd ar adegau pan fydd sefydliadau'n methu gweithredu'n gywir. Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa’r Gwyddorau Cymdeithasol yn Tsieina.

Yr Effaith

Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n ystyried astudio dramor, rhieni myfyrwyr rhyngwladol, timau strategaethau rhyngwladoli mewn prifysgolion yn y DU yn ogystal â sefydliadau yn Tsieina sy'n croesawu myfyrwyr rhyngwladol.

Mae ymchwil Mengwei yn nodi nad yw ymfudo sy'n seiliedig ar addysg yn benderfyniad untro gan fyfyriwr unigol. Yn hytrach na hynny, yn aml ceir penderfyniad gan deulu, ochr yn ochr â chymhlethdodau emosiynol a dyheadau sy'n ymwneud â llawer mwy na rhesymeg economaidd bur. Drwy ddadansoddi llif myfyrwyr i Tsieina ac oddi yno a chynnwys elfen amser, gall Mengwei asesu haenau'r dirwedd addysg fyd-eang, gan arwain at ragor o gwestiynau am gynaliadwyedd addysg ryngwladol.

  • Mae gwaith Mengwei ar y prosiect hwn wedi cael ei gyhoeddi mewn llyfr: Education, Migration and Family Relations Between China and the UK (Emerald, 2018, 2020), sydd ar gael mewn 500 o lyfrgelloedd ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau ac sydd wedi cael ei gymeradwyo gan ddau ysgolhaig blaenllaw yn y maes:

“Dyma waith ethnograffig cynnil sydd wedi'i ysgrifennu'n wych am brofiadau myfyrwyr o Tsieina yn y DU. Bydd y straeon byw, gafaelgar y mae Tu Mengwei yn eu hadrodd am eu bywydau'n rhoi dealltwriaeth ddofn i ddarllenwyr o'u perthnasoedd cymhleth â'r DU, Tsieina a'u rhieni sy'n aros yn Tsieina.” Vanessa L Fong, Athro Olin mewn Astudiaethau Asiaidd, Coleg Amherst, Unol Daleithiau America

“Dyma un o'r llyfrau mwyaf gafaelgar rwyf wedi eu darllen ers amser hir ac mae ef wedi’i ysgrifennu’n wych. Mae'n ddarn pwysig o ysgolheictod am deithiau ymfudo ac addysgol rhwng y DU a Tsieina. Mae'r cipolwg ar y perthnasoedd cymhleth rhwng y rhywiau a'r disgwyliadau mewn teuluoedd Tsieineaidd yn hynod ddadlennol. Yn ddiau, bydd amrywiaeth eang o bobl yn darllen y llyfr hwn a bydd o ddiddordeb i unrhyw un sy'n gweithio ar y ffiniau rhwng ymfudo, trawswladoliaeth ac addysg a theuluoedd Tsieineaidd.” Johanna L Waters, Athro Daearyddiaeth Ddynol, Coleg Prifysgol Llundain

  • Mae Mengwei wedi cyhoeddi canfyddiadau o'r astudiaeth mewn amrywiaeth o gyfnodolion academaidd rhyngwladol.
  • Hefyd, mae wedi cyfathrebu â chynulleidfa anacademaidd drwy ei blog: ‘International students to China: stereotypes and diverse reality’, a ddarllenwyd 600,000 o weithiau.
  • Gwrandawyd ar ei phodlediad: What does study abroad mean to Chinese young women fwy na 101,00 o weithiau, gan ddenu bron mil o sylwadau (hyd at 20/10/23), ac mae'r niferoedd hyn yn dal i gynyddu.
  • Mae Mengwei hefyd wedi cyfrannu at bodlediad Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe ac wedi trafod ei hymchwil i fyfyrwyr rhyngwladol mewn Tsieina, gan annog sgwrs gyhoeddus am astudio dramor.
  • Mae ei hymgysylltiadau â'r cyhoedd cyn 2023 ar gael yma: Dr Mengwei Tu - Prifysgol Abertawe.
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Culture Research Theme.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 04