Beth yw Undeb y Myfyrwyr?

Mae'r UM yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr, sy'n golygu ein bod ni yma i gynrychioli ein haelodau.

Fel myfyriwr Prifysgol Abertawe, rwyt ti'n aelod o UM yn awtomatig, felly rwyt ti'n rhan o'n cymuned wych, fawr, amrywiol! Trwy ni, gallet ti ymuno â chymdeithasau a chlybiau chwaraeon, cael mynediad at gefnogaeth am ddim yn ein Canolfan Cyngor, mwynhau bwyd a diodydd rhad yn ein bariau, a dod i holl ddigwyddiadau gorau'r flwyddyn.

Mae gennym ni chwe Swyddog Llawn-amser etholedig, ac maen nhw’n fyfyrwyr sy'n cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr bob blwyddyn i gynrychioli myfyrwyr o ran popeth sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol. Maen nhw'n sicrhau bod y Brifysgol yn ymwybodol o faterion sy'n bwysig i ti, yn cynnal ymgyrchoedd i ddathlu ein cymuned o fyfyrwyr, a brwydro dy gornel. Felly os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau ar eu cyfer, cysyllta â nhw.

Yn y bôn, ein cenhadaeth yw rhoi'r profiad gorau posibl i ti tra dy fod ti'n fyfyriwr yma, a rhoi'r holl gyfleoedd posib i ti lwyddo yn yr hyn a ddaw ar ôl i ti ein gadael.

Ciao, Pablo ydw i, Llywydd Undeb y Myfyrwyr eleni!

Mae fy rôl fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn cwmpasu cyfrifoldebau amrywiol. Yn bennaf, fi sy'n cymryd yr awenau mewn gweithdrefnau democrataidd a fi yw'r prif gyswllt rhwng yr UM a'r Brifysgol, gan sicrhau cynrychiolaeth deg i'r holl fyfyrwyr.

Rwyf hefyd yn goruchwylio'r tîm o swyddogion amser llawn a rhan-amser ac yn cadeirio Pwyllgor Gwaith UM, sydd ag awdurdod i wneud penderfyniadau sylweddol o fewn yr Undeb. Yn ogystal, rwyf hefyd yn cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sy'n cynnwys 9 Ymddiriedolwr, sydd â'r pwerau gwneud penderfyniadau terfynol o fewn Undeb y Myfyrwyr.

Fy rôl flaenorol ym Mhrifysgol Abertawe oedd gweithio fel Arweinydd Myfyrwyr, gan gyflwyno oedolion ifanc i addysg uwch a'u helpu i ddatblygu eu hunain i gyflawni eu nodau a thyfu'n gyfannol.

Os hoffech gysylltu â mi, neu unrhyw un o'r Tîm Swyddogion Llawn Amser, anfonwch e-bost atom fto@swansea-union.co.uk.

Llun o Pablo, Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Swyddogion Llawn-Amser Undeb y Myfyrwyr

Mae Swyddogion Llawn Amser yn Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli myfyrwyr o ran popeth am fywyd Prifysgol.

Bob blwyddyn fel myfyriwr yn Abertawe byddwch yn cael cyfle i sefyll am un o'r swyddi Swyddog Llawn Amser.

Mae pleidlais ddemocrataidd yn digwydd bob mis Mawrth ac mae'r Swyddogion Llawn Amser yn cychwyn eu rolau yn yr Haf yn barod i fynd i'r afael â'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Mae'n syml. Os cewch eich ethol ac nad ydych eto wedi cwblhau eich gradd, gallwch gymryd blwyddyn o'ch astudiaethau i wneud y gwaith. Os cewch eich ethol a'ch bod yn eich blwyddyn olaf o astudio ar y pryd, gallwch aros yn Abertawe am flwyddyn arall i wneud y gwaith!

Y tîm Swyddogion Llawn Amser yw'r llais i fyfyrwyr sy'n mynd â'ch adborth yn ôl i'r Brifysgol a sicrhau bod rhywbeth yn cael ei wneud yn ei gylch.

Cadwch lygad ar Facebook Undeb y Myfyrwyr am wybodaeth am yr etholiadau sydd ar ddod a sut y gallwch chi gymryd rhan.