Y prif reswm dros ddod i'r Brifysgol i'r mwyafrif yw astudio, felly mae'n bwysig eich bod yn fodlon ar eich addysg. Diben Parth Addysg Undeb y Myfyrwyr yw helpu gyda hynny.

Un nod sydd gan y Parth Addysg – sef sicrhau eich bod yn cael dweud eich dweud ar eich addysg eich hun. Mae ond yn deg bod eich addysg yr hyn rydych chi eisiau iddi fod.

Cynhelir y Parth Addysg gan Undeb y Myfyrwyr ynghyd â'r Brifysgol, a'ch Swyddog Addysg sy'n gyfrifol amdano. Ceir cannoedd o fyfyrwyr sy'n Gynrychiolwyr Myfyrwyr ac yn Gynrychiolwyr Colegau i'ch cynrychioli chi a chyflwyno unrhyw broblemau neu adborth sydd gennych am y cwrs i'r Brifysgol.

Mae nifer o gymdeithasau academaidd i'ch helpu i gwrdd â phobl newydd ar eich cwrs neu gyrsiau tebyg ac i drafod y gwaith. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn siarad â'ch darlithwyr os oes gennych gwestiynau neu broblemau. Diben Undeb y Myfyrwyr yw sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol, hyd yn oed y tu hwnt i furiau'r darlithfeydd.

Helô, Michelle ydw i, Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr!

Fel Swyddog Addysg, fy rôl yw darparu cefnogaeth a chynrychiolaeth i holl Fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Rwy'n gweithio gyda'r 3 Cyfadran, dros 350 o bynciau a 33 o gynrychiolwyr ysgolion i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn parhau i gael llais yn eu haddysg. Yn ystod fy amser rhydd, rwy’n mwynhau creu cynnwys gan ei fod yn caniatáu i mi archwilio fy ochr greadigol. Rwy'n ymfalchïo mewn bod yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd siarad â nhw, felly os oes angen siarad neu rywun i wrando, cysylltwch â fi!

Llun proffil o Michelle, Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr