Mae Gŵyl y Glas yn gyfle i wneud ffrindiau, archwilio'ch dinas newydd a setlo mewn i fywyd prifysgol.

Pan fyddwch yn cyrraedd Abertawe am y tro cyntaf, mae'n bosibl na fyddwch yn adnabod neb. Peidiwch â phoeni – rydych yn mynd i gwrdd â llwyth o bobl newydd. Cewch gyfle i gofrestru ar gyfer clwb chwaraeon neu gymdeithas – dyma'r ffordd orau o gwrdd â phobl o'r un meddylfryd â chi. Ein cyngor ni fyddai i chi ymuno â chynifer o glybiau ag y gallwch i ddechrau!

Os ydych yn byw mewn neuadd breswyl, dewch i adnabod eich cyd-letywyr. Cofiwch y byddwch yn cwrdd â hyd yn oed yn fwy o bobl gyda'r un diddordebau â chi pan fyddwch yn dechrau eich cwrs.