Prifysgol Abertawe

Prifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil yw Prifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, gyda chydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.

Mae ein campysau glan-môr godidog yn ein gwneud yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.