Cyflwyniad

I lawer o bobl, mae'r brifysgol yn lle i wneud ffrindiau am fywyd, i ennill cyfoeth o brofiad, i gael addysg wych ac i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth. Gallai fod yn frawychus i ddechrau ond mae llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael i chi. Y peth pwysicaf yw gofyn am wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth pryd bynnag y mae eu hangen arnoch. Mae angen cymorth ar bawb o bryd i'w gilydd ac mae tîm o arbenigwyr ar gael gennym i'ch helpu chi weithio drwy unrhyw anawsterau. Rydyn ni'n anelu at ddarparu gwasanaethau integredig, proffesiynol, sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu a chyflawni ei botensial/photensial llawn.

Ein Gweledigaeth

Gwasanaethu pob myfyriwr drwy gynnig rhagoriaeth yn y cymorth a'r hyffordiant a ddarparwn.

Ein Cenhadaeth

Byddwn ni’n ymdrechu i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i wireddu ei lawn botensial a byddwn yn cyfrannu at bob agwedd ar fywyd, o’r cyfnod cyn gwneud cais i’r cyfnod ar ôl graddio, yn unol â chenhadaeth y Brifysgol.

Byddwn ni’n cyflawni ein cenhadaeth drwy feithrin profiad myfyrwyr sy’n broffesiynol, yn gydweithredol, yn ofalgar ac yn unigryw. Bydd aelodau staff Gwasanaethau Myfyrwyr yn ymdrechu i gynnig gwasanaethau safonol a chydweithredol sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac wedi eu hintegreiddio â’r gymuned ehangach. Cyflawnir hyn drwy ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynaliadwyedd a drwy fod yn ymatebol i newid, gan fuddsoddi yn sgiliau a gwybodaeth ein staff a’u defnyddio.