Croeso i dudalennau Uniondeb Ymchwil Prifysgol Abertawe. Rydym yn falch iawn o'n henw da am ymchwil ragorol, ac o ansawdd, ymroddiad a phroffesiynoliaeth ein cymuned ymchwil. Deallwn fod rhaid i uniondeb fod yn nodwedd hanfodol o bob agwedd ar ymchwil ac, fel Prifysgol yr ymddiriedir ynddi i ymgymryd ag ymchwil, mae'n rhaid i ni ddangos yn glir ac yn gyson bod ein cymuned ymchwil yn haeddu'r ffydd a roddir ynddi. Felly, mae'r Brifysgol yn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud ag ymchwil yn cael eu hyfforddi i'r safonau uchaf o ran uniondeb ymchwil a'u bod yn ymddwyn ac yn ymgymryd â'u hymchwil mewn modd sy'n parchu urddas, hawliau a lles cyfranogwyr ac sy'n lleihau cymaint â phosib risgiau i gyfranogwyr, ymchwilwyr a thrydydd partïon, ac i'r Brifysgol ei hun.
Llywodraethu Ymchwil
Cysylltau Allweddol
Cysylltau:
Cyfiawnder Ymchwil: researchintegrity@abertawe.ac.uk
Camdriniaeth Ymchwil: researchmisconduct@abertawe.ac.uk
Llywodraethu Ymchwil a Sicrwydd Ansawdd Ymchwil: researchgovernance@abertawe.ac.uk
Ymchwil Cyhyr Dynol: Humantissueresearch@abertawe.ac.uk
Ymchwil Anifeiliaid: AWERB@abertawe.ac.uk