TIROEDD SYFRDANOL LLE GALLWCH WEITHIO, ASTUDIO A CHWARAE

Lleolir ein Campws Parc Singleton hanesyddol mewn parcdir hyfryd o fewn Parc Singleton; dyma un o brif fannau gwyrdd Abertawe sy'n darparu erwau o barcdir gwyrddlas i bawb eu mwynhau.

Mae’r tiroedd hirsefydlog hyn yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd, gyda glaswelltiroedd, coedtiroedd aeddfed, ardaloedd sydd wedi’u plannu a phyllau, gan helpu i gefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Mae Campws y Bae newydd wrth ymyl y traeth a ger Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Twyni Crymlyn, sy'n cynnig cynefinoedd glan môr i chi eu harchwilio'n hamddenol.

Green Flag Award - a white tree icon with adult and child standing underneath it on a green background
1920s aerial shot of Singleton Park Campus

Gydag erwau o dir i’w harchwilio’n hamddenol, gan gynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Twyni Crymlyn ar Gampws y Bae a’n Gardd Fotaneg restredig ym Mharc Singleton, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amgylchedd awyr agored rhagorol y gall myfyrwyr, staff a’r gymuned eu mwynhau.

Mae tiroedd Prifysgol Abertawe ar agor i bawb. Cyn i chi ddod i’w mwynhau, beth am ddarllen am rai o’r trysorau cudd sydd gennym yn swatio yn ein tiroedd trawiadol drwy glicio ar y lluniau isod?

RHEOLI TIROEDD MEWN FFYRDD CYNALIADWY

Caiff ein tiroedd hyfryd eu rheoli gan dîm o arbenigwyr rheoli tiroedd proffesiynol sy'n ymrwymedig i'w datblygu a'u cadw, fel y gall ein cymuned amrywiol yn y Brifysgol fwynhau amgylchedd unigryw i gael seibiant o'u hastudiaethau neu eu gwaith.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Thîm Cynaliadwyedd y Brifysgol i sicrhau y rheolir cyfrifoldebau amgylcheddol ac y caiff yr effaith ar yr amgylchedd ei lleihau.

Mae ein hymrwymiad i arferion cynaliadwy wedi’i amlinellu yn ein Cynlluniau Rheoli Tiroedd isod:

Hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o gynnal a datblygu ein tiroedd?

Os ydych chi’n fyfyriwr yn y Brifysgol, yn aelod o staff neu’n aelod o’r gymuned leol, gallwch gymryd rhan bersonol mewn datblygu treftadaeth Prifysgol Abertawe drwy helpu Tîm y Tiroedd i gynnal a datblygu’r safle hanesyddol hwn. 

Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o bob cefndir. Mae gwirfoddoli gyda’n Tîm Tiroedd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, gwella eich datblygiad proffesiynol, cadw’n heini a chael hwyl yn yr awyr agored.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch y botwm isod:

Cysylltwch â Thîm y Tiroedd

Tîm Tiroedd Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP

E-bost: grounds@abertawe.ac.uk