Pwll Vivian

Students relaxing at Vivian Tower pool, Singleton Park Campus

Agorodd Tŵr Vivian, a’i naw llawr, ym 1966, yn wreiddiol fel yr Adeilad Ffiseg a Mathemateg. Yn hwyrach, fe’i galwyd yn Dŵr Vivian i gydnabod y ffaith bod adeilad gwreiddiol y Brifysgol, Abaty Singleton, wedi bod yn gartref y teulu Vivian cyfoethog a dylanwadol cyn 1920.

Roedd y tŵr yn rhan o gam ehangu mawr y Brifysgol yn y cyfnod a ddechreuodd yng nghanol y 1950au, gan ddod i ben yn y 1970au cynnar. Pan agorodd y tŵr, 3,000 yn unig o fyfyrwyr oedd wedi cofrestru yn yr hyn a elwid ar y pryd yn ‘Goleg Prifysgol, Abertawe’.

Datblygwyd y pwll, sy’n cyd-fynd â dyluniad y tŵr, ar yr un pryd. Er ei fod e bellach wedi’i amgylchynu gan adeiladau eraill y Brifysgol, mae’r pwll yn gartref i amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid y dŵr, gan gynnig lle heddychlon lle gallwch gwrdd â ffrindiau, ymlacio a hyd yn oed fwynhau picnic.

Courtyard of Physics & Maths building, c.1960s. Courtesy Richard Burton Archive

Courtyard of Physics & Maths building, c.1960s. Courtesy Richard Burton Archive
The statue of Confucious looking over the Vivian Tower Pool - Singleton Park Campus
Students sitting on the benches at the Vivian Tower Pool