Gadewch eich olion traed chi ar ein tiroedd

Dewch i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd, cael awyr iach ac ymarfer corff, a’n helpu i ddychwelyd  Gardd Fotaneg Prifysgol Abertawe i’w hen ogoniant.

Mae ein Gardd Fotaneg restredig ar Gampws Parc Singleton yn cynnwys sbesimenau botanegol prin ac anarferol yn ogystal â bod yn gartref i lwynogod, ystlumod, draenogiaid ac ambell ddyfrgi hyd yn oed!

Rydym yn gweithio i adfer y safle rhestredig hwn ar hyn o bryd, gan gael gwared ar rywogaethau goresgynnol a chreu cynlluniau plannu a llwybrau i wella mynediad.

Mae ein gwirfoddolwyr gerddi fel arfer yn cwrdd â Thîm y Tiroedd yn Adeilad yr Ardd Fotaneg bob prynhawn dydd Mercher rhwng 1pm a 4pm i helpu gydag amrywiaeth o brosiectau, o glirio llwybrau i greu cynefinoedd i fywyd gwyllt.

Beth am ymuno â ni?

Os oes amser sbâr gennych ar brynhawn Mercher, dewch i ymuno â ni. Gwisgwch hen ddillad ac esgidiau sy'n addas ar gyfer garddio a dewch â chwpan i fwynhau paned wrth i chi weithio.

Hyd yn oed os nad ydych yn rhydd ar brynhawn Mercher, byddwn wrth ein boddau’n eich gweld a'ch cynnwys yn ein gwaith. Gallwn wneud trefniadau i gyd-fynd â'ch amserlen; cysylltwch â'r tîm grounds@abertawe.ac.uk neu darllenwch y daflen hon grounds-volunteering-leaflet.

A Swansea University grounds volunteer learning to use the equipment
Swansea University grounds volunteers digging
A grounds volunteer female wearing blue shirt planting